Neidio i'r prif gynnwy

Y Menopos

Bydd y Ganolfan Iechyd Menywod integredig newydd yng Nghwm Taf Morgannwg yn darparu ffocws cydgysylltiedig, cyfannol ar wella profiadau menywod o'r menopos, gan ei gydnabod fel cyfnod bywyd arwyddocaol a all effeithio ar les corfforol, emosiynol a chymdeithasol.

Bydd y Ganolfan yn cynnig gwybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth, cefnogaeth bersonol a mynediad gwell at ofal, gan helpu menywod i ddeall, rheoli a llywio symptomau'r menopos a dewisiadau iechyd gyda hyder ac urddas.

Bydd gofyn i fenywod ymweld â'u meddyg teulu am asesiad ac adolygiad cychwynnol ac atgyfeiriad ymlaen i'r clinigau arbenigol priodol yn y Ganolfan. Bydd timau lles yn cydweithio â thimau clinigol yn y Ganolfan i gefnogi dull cyfannol o ofal iechyd menywod. Bydd y tîm yn y ganolfan yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am grwpiau cymorth lleol, dolenni i wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chyngor ar gyfer pob cyflwr sy'n ymwneud â'r menopos.

Dilynwch ni: