Neidio i'r prif gynnwy

Iechyd Mislif

Mae'r ganolfan iechyd menywod newydd yng Nghwm Taf Morgannwg yma i helpu menywod i ofalu am eu hiechyd drwy ganolbwyntio ar les mislif. O reoli mislifoedd poenus neu afreolaidd i ddeall cyflyrau fel endometriosis, Anhwylder Dysfforig Cyn y Mislif (PMDD) a Syndrom Ofarïau Polysystig (PCOS), mae'r Ganolfan yn darparu cyngor, cefnogaeth ac arweiniad ymarferol i helpu menywod i deimlo ar eu gorau.

Gyda mynediad hawdd at wybodaeth a chymorth arbenigol i gyd mewn un lle, mae'r Ganolfan yn ei gwneud hi'n symlach i fenywod gael y cymorth sydd ei angen arnynt a chymryd rheolaeth o'u hiechyd.

Bydd gofyn i fenywod ymweld â'u meddyg teulu am asesiad ac adolygiad cychwynnol ac atgyfeiriad ymlaen i'r clinigau arbenigol priodol yn y Ganolfan. Bydd timau lles yn cydweithio â thimau clinigol yn y Ganolfan i gefnogi dull cyfannol o ofal iechyd menywod. Bydd y tîm yn y ganolfan yn rhannu gwybodaeth ddefnyddiol am grwpiau cymorth lleol, dolenni i wybodaeth sy'n seiliedig ar dystiolaeth a chyngor ar gyfer pob cyflwr sy'n ymwneud ag iechyd mislif.

Dilynwch ni: