Gwella Iechyd a Gofal i Fenywod ledled Cymru
Mae Cynllun Iechyd Menywod Cymru yn gynllun cenedlaethol 10 mlynedd i wella iechyd a lles menywod a merched. Mae'n cydnabod nad yw pryderon iechyd menywod bob amser wedi cael eu deall, eu diagnosio na'u trin yn ddigon cyflym. Mae llawer o fenywod wedi nodi eu bod wedi aros yn hir am atebion, teimlo nad ydyn nhw'n cael eu clywed, neu ei bod hi'n anodd cael y gefnogaeth gywir.
Mae'r cynllun hwn yn ymwneud â newid hynny.
Mae'n nodi sut y bydd GIG Cymru yn gwella gwasanaethau, yn lleihau anghydraddoldebau ac yn sicrhau bod lleisiau menywod yn llywio'r gofal maen nhw'n ei dderbyn. Mae hefyd yn cydnabod bod anghenion iechyd menywod yn newid drwy gydol oes - o'r arddegau a'r mislif, trwy feichiogrwydd a'r menopos, ac i oedran hŷn - ac mae angen i wasanaethau adlewyrchu hynny.
Wyth Maes y Cynllun
Mae'r cynllun yn tynnu sylw at wyth maes allweddol lle mae angen gwelliannau:
1. Iechyd Mislif
Cefnogaeth well ar gyfer mislifau trwm, poenus neu drafferthus, a diagnosis cyflymach o gyflyrau fel endometriosis a PCOS.
2. Endometriosis ac Adenomyosis
Lleihau oedi wrth wneud diagnosis a sicrhau y gall menywod gael mynediad at ofal a chymorth arbenigol.
3. Atal Cenhedlu, Atal Cenhedlu Ôl-enedigol a Gofal Adeg Erthyliad
Gwneud hi'n haws cael mynediad at ystod lawn o opsiynau atal cenhedlu a gofal adeg erthyliad o ansawdd uchel, gyda gwybodaeth glir a dewis gwybodus.
4. Iechyd Cyn Cenhedlu
Helpu menywod i fod mor iach â phosibl cyn beichiogrwydd, yn enwedig y rhai sydd â chyflyrau iechyd presennol.
5. Iechyd y Pelfis ac Anymataliaeth
Gwella cefnogaeth ar gyfer problemau llawr y pelfis a phroblemau’r bledren, lleihau stigma ac annog menywod i geisio cymorth yn gynnar.
6. Y Menopos
Sicrhau y gall menywod gael mynediad at gyngor, triniaeth (gan gynnwys HRT), a chymorth arbenigol i reoli symptomau’r menopos yn hyderus.
7. Trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol
Sicrhau bod gwasanaethau iechyd yn adnabod arwyddion o gam-drin ac yn ymateb yn ddiogel ac yn sensitif.
8. Heneiddio’n Dda a Chyflyrau Hirdymor
Cefnogi menywod i aros yn iach wrth iddynt heneiddio, gyda gwell atal, sgrinio a rheoli cyflyrau iechyd hirdymor.
Er mwyn troi’r cynllun yn newid go iawn, mae GIG Cymru yn:
Tri Maes Ffocws Brys
Er bod y cynllun yn cwmpasu llawer o agweddau ar iechyd menywod, mae camau cynnar yn canolbwyntio ar dri maes lle mae llawer o fenywod yn profi anawsterau:
Drwy wella gwasanaethau yn y meysydd hyn yn gyntaf, mae GIG Cymru yn anelu at wneud gwahaniaeth ystyrlon a gweladwy i iechyd a lles menywod bob dydd - gan barhau i gryfhau cefnogaeth ar draws pob cyfnod o fywyd.
Ch lygad ar y meysydd fadwcfocws ar gyfer iechyd menywod yma