Neidio i'r prif gynnwy

Diweddariad yn dilyn y brigiad o achosion o lid yr ymennydd yng Nghaint

Ar hyn o bryd nid oes unrhyw achosion a amheuir o lid yr ymennydd nac achosion wedi’u cadarnhau yn Dde Cymru nac mewn mannau eraill yng Nghymru sy'n gysylltiedig â'r brigiad yng Nghaint.

Mae gwybodaeth ddiweddaredig am y brigiad yng Nghaint ar gael gan Asiantaeth Diogelu Iechyd y DU (Saesneg yn unig).

Ni chynigir brechiadau rhag Llid yr Ymennydd B fel mater o drefn i blant hŷn ac oedolion drwy'r GIG yng Nghymru. Peidiwch â chysylltu â'ch meddygfa neu dimau ein rhaglen imiwneiddio mewn ysgolion i ofyn am y brechlyn. 

Rydym yn argymell y dylai pobl ifanc, rhieni a theuluoedd ymgyfarwyddo ag arwyddion a symptomau llid yr ymennydd a sepsis. Gall y cyflyrau hyn ddatblygu'n gyflym a gall symptomau ysgafn droi’n salwch difrifol. Mae babanod, plant ifanc, pobl ifanc yn eu harddegau ac oedolion ifanc (yn enwedig y sawl sydd mewn lleoliadau ble ceir cyswllt agos megis colegau a phrifysgolion) yn wynebu mwy o berygl.

Brechu rhag llid yr ymennydd

Gall llid yr ymennydd bacteriol gael ei achosi gan nifer o wahanol fathau o facteria. Mae sawl brechiad yn yr amserlen brechiadau rheolaidd yng Nghymru yn cynnig amddiffyniad rhag llid yr ymennydd.

I sicrhau’r amddiffyniad gorau rhag salwch y gellir ei atal, mae'n hanfodol sicrhau bod plant a phobl ifanc yn cael eu holl frechiadau. 

Mae brechiadau'r GIG a gynigir yng Nghymru yn seiliedig ar argymhellion y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu a Llywodraeth Cymru. Mae manylion amserlen brechiadau arferol Cymru ar gael yma.

Cwestiynau cyffredin

Adolygir y dudalen hon yn rheolaidd a chaiff ei diweddaru pan fydd gwybodaeth newydd ar gael.

Dilynwch ni: