Pan fyddwch chi'n sâl, gall dilyn eich arferion arferol fod yn anodd, ond ceisiwch ddilyn y camau syml isod i helpu i gynorthwyo eich adferiad.
Bwyta - Cysgu - Symud - AiladroddGall bwyta deiet amrywiol, cytbwys da helpu i gadw eich croen a’ch esgyrn mewn cyflwr da ac yn llai tebygol o gael eu niweidio.
Mae angen i ni i gyd gysgu’n dda er mwyn gwella ac aros yn iach.
Mae cadw’n weithgar yn yr ysbyty, a symud pan allwch chi, yn bwysig i atal datgyflyru a lleihau cwympiadau ac wlserau pwysau.
Bydd bod yn ymwybodol o’r uchod ac ailadrodd hyn bob dydd yn eich helpu i gadw’n iach ac i gael eich rhyddhau adref yn gyflymach.
Wrth i ni fynd yn hŷn, rydym yn mynd yn fwy agored i niwed. Os yw person dros 80 oed yn treulio 10 diwrnod yn y gwely, mae’n bosibl iddo ef neu hi ddioddef gwerth 10 mlynedd o heneiddio cyhyrau. Gall dim ond 24 awr yn y gwely leihau pŵer cyhyrau o 2.5%. Gall 7 diwrnod leihau pŵer cyhyrau 5-10% (GIG, 2017). Fodd bynnag, drwy ddysgu mwy am risg ac atal yn y daflen hon, gellir lleihau’r risg o ddatgyflyru.