Ydych chi weithiau’n teimlo'n ansefydlog neu'n poeni am syrthio?
Gall cwympiadau ddigwydd ar unrhyw oedran, ond wrth i ni fynd yn hŷn, maen nhw'n fwy tebygol o achosi niwed. Gellir gwneud rhai newidiadau bach i leihau eich risg.
Gall cadw llygad am beryglon baglu posibl wneud eich tŷ yn lle mwy diogel:
Tynnwch rygiau a matiau o'r tŷ.
Tynnwch wifrau sy'n llusgo a llanast.
Osgowch ddodrefn gwydr sy'n anoddach i'w gweld
Gwnewch yn siŵr bod gennych chi ddigon o olau. Gallech osod golau nos wrth y gwely neu oleuadau sy'n cael eu tanio gan symudiadau i'ch helpu i fynd i'r ystafell ymolchi
Gwiriwch nad yw gwelyau, cadeiriau a seddi toiled yn rhy uchel/isel.
Ystyriwch wisgo cadwyn sy’n gallu galw am help/larwm.
Cysylltwch â Gofal a Thrwsio i gael cyngor ar addasu eich cartref.
Gall rhai meddyginiaethau wneud i chi gael pendro neu deimlo’n benwan ac effeithio ar eich cydbwysedd. Os oes gennych unrhyw bryderon neu os ydych yn ei chael yn anodd cymryd y moddion sydd wedi eu rhoi ar bresgripsiwn i chi, siaradwch â'ch meddyg teulu neu Fferyllydd
Ceisiwch beidio â cholli eich apwyntiad am adolygiad meddyginiaeth
Mae ein golwg a'n clyw yn newid wrth i ni heneiddio a gall hyn arwain at golli cydbwysedd. Ewch i weld eich optegydd i archebu prawf golwg. Mae’n rhad ac am ddim os ydych chi'n 60 oed a throsodd! Mae llawer o Optegwyr hefyd yn cynnig profion clyw.
Wrth i ni fynd yn hŷn, gallwn golli ein cryfder a'n cydbwysedd. Gall ymarferion i wella cryfder cyhyrau leihau eich risg o syrthio. Rhowch gynnig ar yr ymarferion ar dudalen 10 y llyfryn hwn neu gallwch:
Gysylltu ag Age Cymru i ddarganfod pa ddosbarthiadau ymarfer corff sydd ar gael yn eich ardal
Ewch i dudalennau Cymdeithas Siartredig Ffisiotherapi am awgrymiadau ar sut i wella eich cryfder a'ch cydbwysedd
Gall mynd i'r toiled yn aml, yn enwedig yn ystod y nos neu ruthro i fynd, gynyddu eich risg o syrthio. Os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw newidiadau neu'n poeni am eich gallu i ofalu amdanoch chi'ch hun, cysylltwch â'ch meddyg teulu, byddant yn gallu gwneud asesiad llawn a rhoi cyngor.
Gwisgwch esgidiau a sliperi sy'n ffitio'n dda, sydd ddim yn llithro i ffwrdd, sydd â chefn a gafael da, ac sy’n cau’n ddiogel
Gallwch gysylltu â GIG 111 Cymru i ddod o hyd i Bodiatrydd cofrestredig neu gysylltu ag Age Cymru (gweler uchod) i gael gwybodaeth am wasanaethau torri ewinedd traed.
Gwiriwch eich traed am fannau dolurus, ac am unrhyw newidiadau mewn lliw neu gyflwr. Cysylltwch â'ch meddyg teulu os oes gennych unrhyw bryderon.
Trafod risgiau cwympo gyda chi'n rheolaidd.
Cefnogaeth a mynychu apwyntiadau neu grwpiau ymarfer corff lleol gyda chi
Cynorthwyo gyda rheoli meddyginiaeth.
Cynnal gwiriadau diogelwch cartref.