Yr enw cyffredin ar wlserau pwyso yw briwiau pwyso (pressure sores neu bed sores yn Saesneg). Maent yn effeithio amlaf ar bobl sy'n gaeth i wely neu gadair. Mae wlserau pwyso’n gallu bod yn agos at arwyneb y croen neu'n ddwfn yn y croen, ac maen nhw’n gallu amrywio o ran ymddangosiad. Mae’r croen yn gallu bod yn gyflawn neu mae’n gallu ymddangos fel crafiad neu agoriad dwfn yn y croen. Maent fel arfer yn digwydd dros rannau esgyrnog o'r corff, e.e. gwaelod yr asgwrn cefn, y pen-ôl, y sodlau, y cluniau ac ati.
Pwysedd – oherwydd eistedd neu orwedd mewn un safle am gyfnod rhy hir.
Defnydd parhaus o ddyfeisiau fel masgiau ocsigen.
Ffrithiant – pan fydd y croen yn rhwbio ar y gwely neu ar y gadair.
Llusgo, sleidio neu lithro a achosir wrth i’r corff lithro i lawr y gwely neu'r gadair.
Mae wlser pwyso yn gallu cymryd cyn lleied ag awr neu ddwy i ddatblygu Mae yna lawer o resymau pam y gallech fod mewn perygl o gael wlser pwyso:
Mae gennych osgo gwael, anhawster symud o gwmpas, rydych yn oedrannus neu'n wan, neu mae gennych salwch difrifol neu salwch sy'n peryglu bywyd.
Os ydych chi'n anymataliol (incontinent) neu os ydych chi’n cael trafferth cadw'ch croen yn sych, os yw'ch croen wedi colli ei synnwyr teimlad, er enghraifft oherwydd eich bod chi'n ddiabetig neu wedi cael strôc, os oes gennych chi broblemau gyda'r galon neu gylchrediad gwael ac yn fwyaf cyffredin os ydych chi yn y gwely'r rhan fwyaf o'r amser neu'n treulio cyfnodau hir mewn cadair.
Mae Wlserau Pwyso’n datblygu amlaf ar groen sy'n gorchuddio rhannau esgyrnog y corff fel sodlau, fferau, cluniau, pen-ôl, asgwrn y gynffon, neu ardaloedd lle defnyddir dyfeisiau (megis brês, coleri, masgiau, tiwbiau, ac ati).
MAE'R SYMPTOMAU'N CYNNWYS:
Newidiadau anarferol yn lliw neu wead y croen
Chwyddo
Efallai y bydd rhai amlygiadau esgyrnog yn ymddangos yn oerach neu'n gynhesach i'w cyffwrdd na rhai eraill.
Tynerwch dros amlygiadau esgyrnog
Hylif yn gollwng os oes clwyf yn bresennol
Os byddwch chi'n sylwi ar unrhyw ardaloedd coch, porffor neu las ar eich croen, neu os oes gennych chi unrhyw rannau o'ch corff sy'n teimlo’n dendar neu'n brifo pan yn cyffwrdd, gwnewch yn siŵr eich bod chi'n dweud wrth eich meddyg teulu, gofalwr neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Ar groen â phigment tywyll efallai na fydd gwanhau lliw gweladwy, gall y lliw fod yn wahanol i'r croen o'i gwmpas. Gall yr ardal fod yn boenus, yn galed neu'n feddal. Gallwch chi roi cynnig ar brawf croen i weld:
Pwyswch fys ar ardal o groen sydd wedi newid lliw, yna rhyddhewch.
Os yw'r croen yn parhau i fod yn lliw gwahanol ar ôl rhyddhau'r bys, efallai bod difrod wedi digwydd. Gall hyn waethygu'n fuan os na chaiff achos y difrod ei ddileu neu ei leihau.
Os, ar ôl newid safle a lleddfu’r pwysau am 20 munud, mae ardal o gochni yn dal i fod yno, hyd yn oed os yw'n dal i wynnu, gall hyn ddangos difrod cynnar i'r croen.