|
AILBWRPASU ASTUDIAETH ACHOS CARDBORD |
CEFNDIR
Mae'r GIG yn gyfrifol am 4% i 5% o allyriadau carbon y DU, ac am 40% o allyriadau'r sector cyhoeddus. Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) yn cynhyrchu dros 2,000 tunnell o wastraff yn flynyddol. Mae llawer o'r gwastraff hwn yn cael ei ailgylchu, ond mae swm sylweddol yn cael ei losgi neu ei anfon i safle tirlenwi.
Cynigiodd BIPCTM ailddefnyddio cardbord y GIG yn welyau anifeiliaid anwes mewn safle peilot yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg (YBG), Llantrisant. Cysylltodd Adran Rheoli Gwastraff BIPCTM ag amrywiaeth o randdeiliaid i fynd i'r afael â'r mater, gan gynnwys rheolwyr a staff yn ELITE Paper Solutions. Mae ELITE Paper Solutions wedi'i leoli ym Merthyr Tudful, De Cymru, ac maent yn fenter gymdeithasol leol sy'n cefnogi 70 o staff a gwirfoddolwyr dan anfantais a/neu anabledd i gael hyfforddiant a chyflogaeth leol.
Drwy gyfres o gylchoedd Cynllunio-Gwneud-Astudio- Gweithredu (PDSA), rhoddwyd proses ar waith lle mae ELITE wedi'i gontractio i gasglu biniau gwastraff cyfrinachol BIPCTM a'u trosglwyddo mewn fan i'r uned brosesu. Ar yr un pryd, byddai cardbord yn cael ei gasglu, ei gludo, ei rwygo a'i wneud mewn i fêls. Mae Adran Cŵn a Cheffylau Heddlu De Cymru yn prynu bêls ar gyfer gwelyau ceffylau. Mae adran cardbord yn fioddiraddadwy o fewn hyd at wyth wythnos o'i ddefnyddio.
Er mwyn cynyddu faint o gardbord a gasglwyd yn y safle peilot, cynhaliwyd sgyrsiau anffurfiol gyda phorthorion a staff. Cysylltwyd â thîm Cyfathrebu BIPCTM gydag erthyglau a gynhyrchwyd ar gyfer cylchlythyr y staff, Sharepoint a Facebook.
ARBEDION ARIANNOL I BIPCTM:
Drwy’r bartneriaeth unigryw hon, rhoddwyd ystyriaeth nid yn unig i’r budd ariannol i BIPCTM, ond hefyd i’r budd cymdeithasol - gan gynnwys yr ôl troed carbon llai.
Mae cyfrifiadau gan ddefnyddio hafaliad “Triple Bottom Line” Canolfan Gofal Iechyd Cynaliadwy’r DU yn awgrymu gostyngiad blynyddol sylweddol yn ôl troed carbon o 502.02 kgCO2e y flwyddyn, ac arbediad ariannol blynyddol i BIPCTM o £1550.