Neidio i'r prif gynnwy

BIP CTM - Partneriaeth gymunedol Cyn-filwyr a'r Lluoedd Arfog

Ar y Diwrnod Coffa hwn, wrth inni gymryd eiliad i anrhydeddu gyda balchder ac i fynegi ein diolch o galon i bawb sydd wedi gwasanaethu, ac i’r rhai sy’n parhau i wasanaethu, rydym yn falch o rannu adroddiad uchafbwyntiau ein Diwrnod Iechyd a Lles i Gyn-filwyr, eu Teuluoedd a Chymuned Ehangach y Lluoedd Arfog, a gynhaliwyd ar 26 Mehefin 2025.

Cynhaliwyd y digwyddiad gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ar y cyd â Valley Veterans a dros 30 o sefydliadau rhanbarthol, gan ddod â Chyn-filwyr, eu teuluoedd a’n partneriaid o bob rhan o’r ardal at ei gilydd. Roedd yn ddiwrnod o gysylltu, cefnogi a diolchgarwch – yn ein hatgoffa bod gofalu am y rhai sydd wedi gwasanaethu ein cenedl hefyd yn golygu gofalu am eu hiechyd a’u lles.

Mae cyhoeddi’r adroddiad heddiw yn cario arwyddocâd arbennig. Wrth inni gofio’r aberthau a wnaed er mwyn gwasanaethu eraill, rydym hefyd yn ailgadarnhau ein hymrwymiad i gefnogi lles ein cymuned y Lluoedd Arfog – nid heddiw yn unig, ond bob dydd.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma.

Mynediad i daflen sefydliadau cymorth lleol: https://bipctm.gig.cymru/amdanom-ni/hafan-gymunedol-ctm2030/rhwydwaith-arweinwyr-cymunedol-ctm2030/newyddion-cymunedol/bip-ctm-partneriaeth-gymunedol-cyn-filwyr-ar-lluoedd-arfog/dogfennau/taflen-cyn-filwyr-cymraeg/

Gwyliwch uchafbwyntiau’r fideo yma: https://www.youtube.com/watch?v=WYstCJClH0Y&t=2s

#DiwrnodCoffa
#IechydLluoeddCTM
#RhagiNiAnghofio