Neidio i'r prif gynnwy

Mae'n cymryd pentref cyfan i'n cadw ni'n ddiogel rhag y ffliw y gaeaf hwn

Cwm Taf Morgannwg a'r Gymuned - Pecyn Cymorth Ymgyrch Brechu Ffliw: Mae'n Cymryd Pentref

Mae tymor y ffliw wedi dechrau'n gynharach eleni, ac rydym eisoes yn gweld mwy o salwch yn ein cymunedau a mwy o bwysau ar draws ein system iechyd a gofal. Mae brechu yn parhau i fod yn un o'r ffyrdd mwyaf effeithiol o leihau effaith y ffliw ar unigolion, teuluoedd a gwasanaethau. Mae hyn yn gwneud ein hymdrechion ar y cyd yn bwysicach nag erioed.

Mae'r adnodd newydd hwn wedi'i gynllunio i helpu partneriaid ac arweinwyr cymunedol i hyrwyddo negeseuon clir a chyson sy'n annog pobl i gael brechiad rhag y ffliw ar draws ein holl gymunedau.

Beth sydd yn y pecyn cymorth?

  • Postiadau cyfryngau cymdeithasol parod i'w defnyddio a delweddau cysylltiedig
  • Posteri ac asedau fideo y gellir eu hargraffu
  • Negeseuon allweddol i gefnogi sgyrsiau cymunedol
  • Canllawiau ar addasu deunyddiau ar gyfer defnydd lleol (gan ddefnyddio'r templedi a ddarperir)

Gallwch gael mynediad at y pecyn cymorth yma

Mae oriel o luniau ar gael yma

Rydym yn eich annog i rannu'r adnoddau hyn yn eang a'u defnyddio i atgyfnerthu pwysigrwydd brechu rhag y ffliw o fewn eich rhwydweithiau.

Mae Timau Diogelu Iechyd Strategol a Chyfathrebu ac Ymgysylltu yn y bwrdd iechyd ar gael i ddarparu cefnogaeth a chyngor parhaus i'ch helpu i ymgorffori'r ymgyrch hon yn lleol. Darperir gwybodaeth gyswllt ar gyfer unrhyw gefnogaeth bellach yn y pecyn cymorth.

Gyda'n gilydd, gallwn wneud gwahaniaeth gwirioneddol wrth leihau salwch sy'n gysylltiedig â'r ffliw ac amddiffyn y rhai sydd fwyaf mewn perygl.

Mae'r pecyn cymorth hwn wedi cael ei gyflwyno gan nifer o bartneriaid ein Rhwydwaith Arweinwyr Cymunedol. Hoffem estyn ein diolch diffuant i bawb a gyfrannodd at ei ddatblygiad.