Gweithredoedd bach gydag effaith fawr
Yn ysbryd rhoi, mae Rhodd o Garedigrwydd yn dathlu pŵer gweithredoedd bach sy'n dod â llawenydd a thosturi i'r rhai o'n cwmpas. Y tu hwnt i roddion a gwirfoddoli, gall caredigrwydd fod mor syml â gwneud rhywbeth meddylgar. Yn ystod yr ŵyl, rydym yn annog pawb yn ein cymuned BIP CTM i gofleidio caredigrwydd a rhoi hwb i'r rhai o'u cwmpas.
O rannu ychydig eiriau caredig gyda chydweithiwr i synnu rhywun ac anrheg feddylgar, gall y gweithredoedd bach caredig hyn greu tonnau o bositifrwydd ar draws ein bwrdd iechyd a thu hwnt. Ymunwch â ni i ledaenu caredigrwydd y tymor hwn a phrofi sut y gall y camau lleiaf wneud y gwahaniaeth mwyaf.