Neidio i'r prif gynnwy
Patsy Roseblade

Cyllid / Archwilio

Amdanaf i

Cyllid / Archwilio

Mae Patsy yn gweithio i GIG Cymru ers 20 mlynedd a mwy, yn bennaf fel Cyfarwyddwr Cyllid ond yn fwyaf diweddar, roedd yn Gyfarwyddwr y Rhaglen i Wella Llywodraethu a threuliodd naw mis yn Brif Weithredwr Dros Dro Ymddiriedolaeth Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Mae hi wedi cael cyfle i weithio mewn nifer o rannau o GIG Cymru, gan gynnwys darpariaeth acíwt, gwasanaethau cymunedol, comisiynu, gwasanaethau ambiwlans a gofal sylfaenol.

Daeth ei gyrfa lawn amser i ben ddiwedd haf 2020, ac o’r herwydd mae’n gallu rhoi ei phrofiad helaeth ar waith yn ei rôl fel Aelod Annibynnol o Fwrdd BIP CTM ers Mawrth 2021.

Mae Patsy yn aelod o bwyllgorau canlynol y Bwrdd:

  • Archwilio a Risg
  • Cronfeydd Elusennol
  • Cynllunio, Perfformiad a Chyllid
  • Ansawdd a Diogelwch
  • Taliadau a Thelerau Gwasanaeth