Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

04/05/22
Canolfannau brechu cymunedol Llantrisant a Merthyr Tudful yn cau dros dro oherwydd etholiadau lleol

Bydd dwy o ganolfannau brechu cymunedol y Bwrdd Iechyd yn cau ddydd Iau a dydd Gwener yma (5 a 6 Mai) oherwydd yr etholiadau lleol.

03/05/22
Polisi colli babi yn ystod beichiogrwydd y Bwrdd Iechyd yn ceisio chwalu tabŵs

Mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn falch o fod y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i ddatblygu a gweithredu polisi colli babi yn ystod beichiogrwydd ar gyfer ei staff. 

29/04/22
Oriau agor y fferyllfeydd dros benwythonos Gwyl Banc Mai

Oriau agor y penwythnos hwn 30 Ebrill, 1 a 2 Mai

28/04/22
WISE yn barod i fynd
WISE yn barod i fynd
WISE yn barod i fynd

Cyflwyno gwasanaeth newydd i Fwrdd Iechyd Cwm Taf Morgannwg – Gwasanaeth Gwella Lles (WISE)

26/04/22
Gethin Hughes yn ymgymryd â rôl y Prif Swyddog Gweithredu yn BIP CTM

Y mis hwn, mae Gethin Hughes wedi ymuno â’r Bwrdd Iechyd fel Prif Swyddog Gweithredu newydd.

Daw Gethin o University Hospitals Sussex NHS Foundation Trust, lle roedd yn Brif Swyddog Gweithredu dros dro ers mis Medi 2020.

Ar ôl cael ei fagu yn ne Cymru a dechrau ei yrfa yn Ysbyty Brenhinol Caerdydd, mae Gethin wedi gweithio mewn nifer o uwch-swyddi gweithredol ar lefel y Bwrdd ac islaw’r Bwrdd mewn nifer o sefydliadau'r GIG sy'n darparu gwasanaethau acíwt, cymunedol ac iechyd meddwl, a hynny yn bennaf ar draws Llundain a de-ddwyrain Lloegr.

22/04/22
Cynllun peilot endosgopi newydd yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg

Mae'r Tîm Endosgopi yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn cymryd rhan mewn prosiect peilot sy’n ceisio trawsnewid y ffordd mae endosgopïau’n cael eu cynnal, er mwyn lleihau amseroedd aros a gwella cysur cleifion.

22/04/22
Diwrnod Mam Daear

Ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Fam Ddaear (Ebrill 22) , mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn annog pobl i ailgysylltu â byd natur i helpu i wella eu hiechyd ac iechyd ein planed.

21/04/22
Penblwydd Hapus i Ysbyty Cwm Cynon yn 10 oed

Yr wythnos hon, trodd Ysbyty Cwm Cynon (YCC) 10 oed. Buom yn dathlu gyda chacennau i staff a chleifion ar bob un o'r chwe ward.

21/04/22
Diweddariad ar roddion meddyginiaeth ar gyfer Wcráin

Gwybodaeth i'r cyhoedd sy'n chwilio am gyngor am sut i gefnogi ymdrech ddyngarol Wcráin gyda rhoddion meddyginiaethau.

14/04/22
Amseroedd Agor Fferyllfeydd Cymunedol dros benwythnos y Pasg

Mae llawer o’n fferyllfeydd cymunedol ar agor trwy gydol y penwythnos hir.

08/04/22
Newidiadau i ymweliadau ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth

 Newidiadau o ran ymweld â’r Gwasanaethau Mamolaeth

07/04/22
Partneriaeth ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn newid bywyd pobl sy'n byw gyda Dementia Datblygedig

Gan weithio gydag awdurdodau lleol a phartneriaid yn y trydydd sector, mae BIP Cwm Taf Morgannwg yn newid y ffordd mae pobl sy'n byw gyda Dementia datblygedig ym Mhen-y-bont ar Ogwr yn cael cymorth er mwyn cadw eu hannibyniaeth.

06/04/22
Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn lansio Siarter Ysbytai sy'n Deall Dementia Cymru Gyfan

Heddiw, 6 Ebrill 2022, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, ynghyd â holl Fyrddau Iechyd Cymru, yn lansio Siarter Ysbytai sy’n Deall Dementia Cymru Gyfan.

06/04/22
Blychau Seren Dwt i deuluoedd CTM

Erbyn hyn, bydd darpar rieni neu'r rheiny mae eu babanod sydd wedi eu geni â Syndrom Down ar draws Cwm Taf Morgannwg yn cael blwch 'Seren Dwt'. Daw hyn ar ôl i ddwy fam fynd ati i newid y cymorth sydd ar gael i rieni yng Nghymru.

22/03/22
Elusen colli babi yn ystod beichiogrwydd, CRADLE, yn lansio ei phartneriaeth gyntaf yng Nghymru â Tilbury Douglas yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, Merthyr Tudful

Fel y prif gontractwr ar y gwaith adnewyddu gwerth £130 miliwn yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, mae Tilbury Douglas, sy’n gwmni adeiladu, seilwaith, peirianneg a gosod ffitiadau blaenllaw yn y DU, wedi partneru â CRADLE i lansio gwasanaeth colli babi yn ystod beichiogrwydd cyntaf CRADLE yng Nghymru yn Ysbyty Tywysog Siarl.Fel y prif gontractwr ar y gwaith adnewyddu gwerth £130 miliwn yn Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful, mae Tilbury Douglas, sy’n gwmni adeiladu, seilwaith, peirianneg a gosod ffitiadau blaenllaw yn y DU, wedi partneru â CRADLE i lansio gwasanaeth colli babi yn ystod beichiogrwydd cyntaf CRADLE yng Nghymru yn Ysbyty Tywysog Siarl.

22/03/22
Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg – Arolwg o Iechyd Meddwl Oedolion

Cyngor Iechyd Cymuned Cwm Taf Morgannwg – Arolwg o iechyd meddwl oedolion wedi ei lansio ar 16.03.22

 

18/03/22
Diwrnod Ailgylchu'r Byd – Peidiwch â'i wastraffu!

Eleni ar Ddiwrnod Ailgylchu’r Byd, rydyn ni am dynnu sylw at y ffyrdd y gallwn ni i gyd fod yn #ArwyrAilgylchu bob dydd.

14/03/22
Sganiwr MRI newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru

Dysgwch fwy am y sganiwr MRI newydd o'r radd flaenaf yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

10/03/22
BIP Cwm Taf Morgannwg yn dychwelyd canolfannau brechu cymunedol

Erbyn hyn, mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn dechrau cam newydd o'i raglen frechu rhag COVID-19, ac yn cynllunio sut a ble y bydd brechlynnau'n cael eu cynnig i'w gymunedau yn y dyfodol.

10/03/22
Cerflun o'r awdur arloesol o Gymru a'r eicon ffeministaidd Elaine Morgan i'w ddadorchuddio yn Aberpennar

Bydd cerflun Elaine Morgan, sy'n gofeb barhaol efydd o'r ferch enwog o Gymoedd y De, yn cael ei ddadorchuddio mewn seremoni arbennig ar ddydd Gwener 18 Mawrth 2022, yn Aberpennar, Rhondda Cynon Taf.

Dilynwch ni: