Neidio i'r prif gynnwy

GIG 111 Cymru

Mae rhif ffôn newydd sbon ar gael bellach ar gyfer gofal iechyd nad yw’n frys.

Erbyn hyn, mae'r gwasanaeth 111 newydd ar gael ledled Cwm Taf Morgannwg.

Mae 111 yn rhif y gellir ei ffonio YN RHAD AC AM DDIM. Yn lle gorfod ffonio rhifau gwahanol i gysylltu â Galw Iechyd Cymru neu wasanaeth meddyg teulu tu allan i oriau, bydd modd defnyddio’r ddau wasanaeth erbyn hyn o ffonio 111.

Ar y dudalen hon mae gwybodaeth am sut i gael gofal brys os byddwch chi neu aelod o’ch teulu’n dost.

Bellach, mae un rhif cofiadwy ar gyfer Galw Iechyd Cymru a’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau.

Gallwch ffonio 111 os bydd angen un o’r canlynol arnoch:

  • Gofal brys
  • Gwasanaethau meddygon teulu tu allan i oriau
  • Cyngor
  • Gwybodaeth iechyd

111 yw’r rhif cofiadwy newydd ar gyfer Galw Iechyd Cymru a’r Gwasanaeth Tu Allan i Oriau, sy’n rhad ac am ddim o ffonau symudol a llinellau tir. Mae’n wasanaeth 24 awr, 7 diwrnod yr wythnos, ac mae’n cynnig cyngor a gofal ar gyfer pob problem feddygol sydd ddim yn argyfwng.

Am gyngor ar lein, gan gynnwys y gwiriwr symptomau a gwasanaethau lleol, ewch i https://111.wales.nhs.uk/default.aspx?locale=cy

Adnoddau defnyddiol eraill

Am gyngor brys 24/7

Ffoniwch 111 os oes angen sylw brys arnoch chi ac os nad yw’r broblem yn bygwth bywyd. Mae hyn hefyd yn cynnwys yr adegau hynny pan fo angen sylw meddygol brys arnoch chi gan eich meddyg teulu y tu allan i’w oriau agor arferol, ac allwch chi ddim aros tan y diwrnod gwaith nesaf.

Bydd triniwr galwadau sydd wedi cael ei hyfforddi yn ateb y ffôn, a bydd yn cymryd ychydig o fanylion gennych chi. Byddwch chi naill ai’n cael cyngor am sut i helpu eich hun, yn cael eich anfon ymlaen at wasanaeth mwy priodol neu’n cael cynnig apwyntiad yn un o’n canolfannau gofal sylfaenol. Os bydd y meddyg teulu yn credu bod angen, mae’n bosibl y bydd ymweliad â’r cartref yn cael ei drefnu.

Os oes mân-anaf gyda chi

Gellir cysylltu â'r Uned Mân-anafiadau yn Ysbyty Cwm Cynon ar 01443 715200. Mae'r uned ar agor rhwng 9 am a 5 pm (dydd Llun i ddydd Gwener). Mae'r uned ar gau ar benwythnosau a Gwyliau Banc.
Cyfeiriad: Heol Newydd, Aberpennar CF45 4DG

Mae’r Uned Mân-Anafiadau yn Ysbyty Cwm Rhondda ar agor rhwng 8.30am a 4.30pm (Dydd Llun i Ddydd Gwener) ac eithrio Gwyliau’r Banc. Bydd yr uned dim ond yn gweld cleifion dros 1 mlwydd oed.

Os oes gennych chi mân anaf yr ydych chi'n meddwl sy'n addas ar gyfer y gwasanaeth hwn, ewch yn uniongyrchol a chewch eich asesu gan nyrs brysbennu.

Y Gwasanaeth Deintyddiaeth
Os oes angen deintydd arnoch tu allan i oriau, ffoniwch: 0300 123 5060.

Ffonio 999
Mewn argyfwng sy’n bygwth bywyd, e.e. trafferth yn anadlu, trawiad ar y galon posibl, colli llawer iawn o waed, anaf difrifol, llosgiadau drwg iawn, colli ymwybyddiaeth – ffoniwch 999.

 

Darllenwch ein datganiad i’r wasg am y gwasanaeth 111 newydd.

Gwasanaeth 111 i bobl sydd ddim yn gallu siarad na chlywed ar y ffôn.

Taflen Newyddion am y Gwasanaeth 111

Helpwch Ni I'ch Helpu Chi
Dilynwch ni: