Neidio i'r prif gynnwy

Amdanom Ni

Ni yw Cwm Taf Morgannwg

Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn darparu gwasanaethau sylfaenol, cymunedol, a gwasanaethau ysbyty ac iechyd meddwl i'r 450,000 o bobl sy'n byw ym Mwrdeistrefi Sirol Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

Yng Nghwm Taf Morgannwg, ein prif flaenoriaeth yw darparu gofal iechyd rhagorol i’n cymuned. Amcangyfrifir y bydd y cynnydd mwyaf yn ein grwpiau 65 i 84 ac 85+ erbyn 2036, pan amcangyfrifir y bydd un o bob pedwar o bobl Cymru yn 65 oed a hŷn. Bydd yr amcangyfrifon hyn yn cael goblygiadau sylweddol i’r ffordd rydyn ni’n dylunio ac yn darparu ein gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol sy’n gynyddol integredig, fel bod modd i ni helpu’r bobl sy’n byw yn ein cymunedau i fyw bywyd hir ac iach ac yn rhydd rhag effeithiau cyfyngedig cyflyrau cronig lluosog.

Yng Nghwm Taf Morgannwg, rydyn ni’n credu mewn arloesi i wneud gwelliannau i ofal clinigol. Rydyn ni’n arbennig o falch o'n Canolfan Academaidd ym Merthyr Tudful sy'n helpu i hyfforddi meddygon y dyfodol mewn meddygaeth gymunedol.

Darllenwch fwy am ein sefydliad, gan gynnwys ein gweledigaeth a'n datganiad cenhadaeth yma.

Darllenwch fwy am ein hysbytai yma.

Darllenwch fwy am y gwasanaethau rydyn ni’n eu darparu yma.

Gwerthoedd ac ymddygiadau

Ar 15 Hydref 2020, ac yntau’n Ddiwrnod Gwerthoedd y Byd, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg ei werthoedd ac ymddygiadau sefydliadol newydd. 

Eu nod yw gwneud gwahaniaeth cadarnhaol i’n gweithwyr, yn ogystal â’n cleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau ledled y cymunedau amrywiol rydyn ni’n eu gwasanaethau.

Drwy arolygon a chyfres o weithdai gwrando a chyd-greu er mwyn canfod beth sydd bwysicaf i bawb, aeth y Bwrdd Iechyd ati i gyd-greu gwerthoedd ac ymddygiadau newydd ar gyfer y sefydliad. Cafodd mwy na 6,500 o ddarnau o adborth eu casglu.

Canolbwynt y sefydliad erbyn hyn yw gwreiddio’r gwerthoedd ac ymddygiadau newydd yn arferion dyddiol Cwm Taf Morgannwg.

Wrth i holl weithwyr Cwm Taf Morgannwg weithio tuag at un gyfres benodol o werthoedd ac ymddygiadau ar gyfer ein sefydliad, bydd y gwerthoedd hyn: 

  • yn ein helpu ni i fod ar ein gorau, drwy weithio fel un tîm i ddod a’n gwerthoedd yn fyw, yn ein gweithlu mewnol a dros ein cymunedau, a hynny drwy ein darpariaeth o wasanaethau a gofal i gleifion;
  • yn helpu i lywio’r penderfyniadau a wnawn fel Bwrdd Iechyd; 
  • yn ffurfio profiad ein gweithwyr; ac yn bwysicaf oll
  • yn gwella’r gofal a’r canlyniadau i gleifion a defnyddwyr ein gwasanaethau o’n cymunedau lleol.

Mae ein Bwrdd Iechyd wedi ymrwymo i greu diwylliant y mae’n ymfalchïo ynddo, gyda gwerthoedd cyfarwydd wrth ei graidd y mae pob unigolyn sy’n dod i gyswllt â nhw’n gallu eu deall ac yn gallu uniaethu â nhw. 

Drwy fanteisio ar bob cyfle i fyw yn ôl ein gwerthoedd ac ymddygiadau sefydliadol newydd, gallwn ni gyflawni tri pheth:



#CTMArEinGorau