Neidio i'r prif gynnwy

Banc y staff

Adnodd sefydliadol yw banc y staff sy’n helpu meysydd clinigol i reoli sifftiau gwag.

Gallwch chi drefnu shifftiau banc yn uniongyrchol ar-lein ar eich cyfrifiadur neu ar eich dyfais symudol. Os nad oes cyfrif gyda chi, cysylltwch â ni ar 01685 726900.

Oriau agor
O ddydd Llun i ddydd Gwener (9:00am – 5:00pm)
Dydd Sadwrn (10:00am – 3:00pm)
Dydd Sul (10:00am – 2:00pm)

Sylwch nad ydyn ni’n defnyddio taflenni amser mwyach.

Bydd angen i staff parhaol lenwi ffurflen gofrestru a ffurflen manylion personol. Bydd y ffurflen gofrestru’n cael ei hanfon at Swyddfa’r Banc a byddan nhw’n ei hanfon at y Gyflogres i sicrhau bod yr unigolion yn cael eu talu.

Ar gyfer meysydd arbenigol, byddwch chi’n cael cyfweliad gan reolwr y ward neu’r adran, yna bydd yn gofyn i Swyddfa’r Banc gynnal gwiriad cyn cyflogaeth a gwiriad recriwtio.

Rydyn ni’n talu ein gweithwyr ar yr 21ain bob mis.

Ar gyfer swyddi parhaol, ewch i’n tudalen swyddi

 

Dilynwch ni: