Mae Diwrnod Ymwybyddiaeth Deliriwm y Byd yn ddigwyddiad blynyddol a gynhelir ar yr ail ddydd Mercher o Fawrth i godi ymwybyddiaeth am ddeliriwm a’i effaith ar gleifion, teuluoedd, a systemau gofal iechyd.
Rydym yn falch iawn o fod ar y rhestr fer yng Ngwobrau Arlwyo Cenedlaethol 2024 sydd yn cael ei gynnal yn Llundain ar 4 Ebrill am ein gwaith ar y bwydlenni 'Maeth' ar gyfer cleifion 'Nutritionally Well’ a 'Nutritionally Vulnerable'.
Heddiw, rydym yn dathlu Diwrnod Rhyngwladol y Menywod ar draws ein safleoedd, gan gydnabod y cyfraniad eithriadol y mae menywod yn ei wneud yn ein bwrdd iechyd a’n cymunedau.
Yn ystod y misoedd diwethaf, bu achosion sylweddol o'r frech goch yn y DU, gan gynnwys achosion yn Ne Cymru. Mae'r frech goch yn heintus iawn a'r unig ffordd i atal achosion mawr yw trwy dderbyn y brechiad MMR (2 ddos) yn uchel.
Rydym yn falch o groesawu Rachel Rowlands fel Aelod Annibynnol (cymuned) sydd newydd ei phenodi.
Pan fyddwch yn ymweld â'r wardiau plant yn Ysbyty'r Tywysog Siarl (YTS) ni fyddwch yn chwilio am wardiau 31 a 32 mwyach, yn awr Ward Crwbanod (31) a Ward Octopws (32) y byddwch yn edrych amdanynt.
Fel y gwyddoch efallai, rydym yn gweld cynnydd pryderus yn nifer yr achosion o'r frech goch yn y DU, gydag achosion diweddar yn rhanbarth De Cymru.
Yn gynharach yn y mis, cyflwynwyd Gwobrau GIG Cymru i'r Bartneriaeth Gweithgarwch Anabledd Iechyd gan Brif Weithredwr GIG Cymru, Judith Paget, am ei chyfraniad at wella iechyd a lles pobl anabl.
Mae pob un o'n hadrannau brys, yn ysbytai Brenhinol Morgannwg, Tywysog Charles a Thywysoges Cymru, yn wynebu pwysau eithafol.
Roeddem yn falch iawn o ddathlu gyda staff ddoe (Ionawr 17eg) sydd wedi cyflawni 40 mlynedd neu fwy yn gweithio yn y GIG.
Rhoddir rhybudd a bydd Cyfarfod Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Tag Morgannwg yn cael ei gynnal ar ddydd Iau 25 Ionawr 2024 am 10:00 y bore yn Yr Hwb, Safle Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ynysymaerdy, CF72 8XR.
O 1 Rhagfyr 2023, bydd cyfrifoldeb am ddarparu gwasanaethau Iechyd Rhywiol Integredig (IRI) i ardal Pen-y-bont ar Ogwr yn trosglwyddo o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Pan oedd y bardd lleol Julie Croad yn ymweld â’n Hadran Radioleg yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg yn ddiweddar, sylwodd ar ein murlun a meddyliodd y byddai ei cherdd o’r enw ‘Cymreictod’ yn edrych yn wych ar y wal wrth ei hochr.
Bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal ddydd Iau, 30 Tachwedd 2023 am 10:00yb.
Rydym yn falch iawn heddiw o ddathlu ar ôl ennill gwobr yng Ngwobrau GIG Cymru 2023.
Da iawn i Christian Harris a Kirsten Jenkins, a enillodd 'Wobr Gweithiwr Cymorth Nyrsio' yng Ngwobrau'r Coleg Nyrsio Brenhinol 2023 a gynhaliwyd nos Wener (Tachwedd 10fed).
Mae Byrddau Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan, Caerdydd a’r Fro, a Chwm Taf Morgannwg wedi lansio cyfnod o ymgysylltu i gasglu adborth gan y cyhoedd i helpu i lunio dyfodol gwasanaethau cataract, gan sicrhau bod pob claf yn cael y gofal y mae’n ei haeddu.
Ddydd Gwener, 3 Tachwedd, daeth ffrindiau, teulu a chydweithwyr y diweddar Rhewmatolegydd Ymgynghorol Dr K T Rajan ynghyd i osod plac coffa iddo, ac i anrhydeddu cyn-Faeres diweddar Rhondda Cynon Taf, Edie May Evans ym Mharc Iechyd Dewi Sant i gydnabod y gwaith arloesol a'r ymchwil a gyflawnodd Dr K T Rajan dros ei yrfa, a oedd yn ymestyn dros 50 mlynedd a'r gefnogaeth yr oedd y Faeres wedi'i rhoi i'r gymuned.