Neidio i'r prif gynnwy

Newyddion

10/03/22
Meddygfeydd yn uno i gynnig gwell mynediad i gleifion a dyfodol diogel i wasanaethau

Bydd Meddygfa Stryd Dewi Sant yn Nhon Pentre a Meddygfa Llwynypia yn Llwynypia yn uno i greu un practis ar 1 Ebrill 2022.

10/03/22
Hysbysiad am Gyfarfod o'r Bwrdd – 31 Mawrth 2022

Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 31 Mawrth 2022 am 10:00 am. 

09/03/22
Mae ffilmiau arloesol yn rhoi golwg person cyntaf ar fywyd gyda dementia

Mae cyfres newydd o ffilmiau am fywydau a heriau beunyddiol pobl sy'n byw gyda Dementia wedi eu creu gan ddefnyddio technoleg olrhain y llygaid ac adnabod mynegiant yr wyneb.

03/03/22
Cwm Taf Morgannwg yn croesawu myfyrwyr Canolfan Addysg Tŷ Gwyn i Ysbyty'r Tywysog Siarl
28/02/22
Dyfarnu MBE i Fiona Jenkins, ein Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd

Dyfarnwyd MBE yn swyddogol i Dr Fiona Jenkins, Cyfarwyddwr Therapïau a Gwyddorau Iechyd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yng Nghastell Windsor ar 9 Chwefror 2022 gan Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru.

25/02/22
Un filiwn o frechlynnau rhag COVID-19 wedi eu rhoi gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

Yr wythnos hon, mae BIP Cwm Taf Morgannwg wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol. Rydyn ni wedi rhoi miliwn o frechlynnau rhag COVID-19 i drigolion ledled Pen-y-bont ar Ogwr, Merthyr Tudful a Rhondda Cynon Taf.

17/02/22
Dyfarnu amser ymchwil gwarchodedig i ddarpar arweinydd ymchwil yng Nghymru

Mae amser ymchwil gwarchodedig wedi’i ddyfarnu i bedwar darpar arweinydd ymchwil yng Nghymru gan Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru.

Mae’r cyllid yn dod o gylch 2021 Dyfarniad Amser Ymchwil y GIG sydd â chyfanswm gwerth oes o £356,789.

 

16/02/22
Newidiadau i reolau ymweld ar gyfer Gwasanaethau Mamolaeth

Diolch i ymdrechion pawb yn ein hardaloedd, mae cyfraddau COVID-19 wedi lleihau yn ein cymunedau a’n hysbytai ledled CTM.

O ganlyniad, mae’n braf gennym ni lacio’r cyfyngiadau ymweld ar draws ein gwasanaethau mamolaeth.

11/02/22
"Mae pawb yn wynebu eu Mynydd Everest eu hunain"

Mae’r Cerddwyr (neu Ramblers Cymru) yn annog pobl i wisgo eu hesgidiau cerdded a mynd allan i'r awyr agored er mwyn gwella eu hiechyd meddwl a'u lles.

10/02/22
IMSOP – Adroddiad at wraidd y mater – Gwasanaethau Newyddenedigol BIP Cwm Taf Morgannwg
03/02/22
Diwrnod Amser i Siarad 2022

Mae Diwrnod Amser i Siarad yn ddyddiad arwyddocaol yn y calendr iechyd meddwl. Mae dydd Iau 3 Chwefror 2022 yn ddiwrnod ymwybyddiaeth cenedlaethol, lle bydd ffrindiau, teuluoedd, cymunedau a gweithleoedd yn cael eu hannog i ddod ynghyd i siarad am iechyd meddwl a sut mae’n effeithio ar eu lles personol.

02/02/22
Gwaith adfywio mawr ei angen ar Eglwys Glanrhyd

Mae Tîm Ystadau Cwm Taf Morgannwg wedi bod yn gweithio’n galed i adfywio’r eglwys hanesyddol ar safle Ysbyty Glanrhyd ym Mhen-y-bont ar Ogwr.

31/01/22
Cyfnod clo creadigol yn Nhŷ Pinewood

Mae pandemig COVID-19 wedi effeithio ar bob cwr o’r byd ac wedi creu heriau newydd i’r rhan fwyaf o bobl. Yr un oedd y sefyllfa i staff a chleifion Tŷ Pinewood yn Nhreorci, sef gwasanaeth adsefydlu iechyd meddwl yn y gymuned. Wrth i’r byd wynebu cyfnod clo, doedd dim modd parhau â’r gwasanaethau yn yr awyr agored i’r cleifion.

27/01/22
Arloesi ar gyfer cleifion allanol yn CTM

Rydyn ni’n trawsnewid ein Gwasanaethau i Gleifion Allanol i’w gwneud yn haws eu defnyddio ac i wella iechyd cymunedau CTM.

25/01/22
Bwrdd Iechyd yn croesawu Aelod Annibynnol newydd

Mae Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, Emrys Elias, wedi croesawu penodiad Aelod Annibynnol newydd i'r Bwrdd, Geraint Hopkins, gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

25/01/22
Dull arloesol o reoli llif y cleifion yn Ysbyty'r Tywysog Siarl

Mae dull arloesol o reoli llif cleifion wedi ei lansio yn Ysbyty’r Tywysog Siarl. Syniad Rob Foley, Rheolwr Llif y Cleifion, yw Barod i Fynd, a’i nod yw dod â rheolwr pob ward ynghyd i drafod staffio, capasiti, ansawdd a diogelwch ledled Ysbyty’r Tywysog Siarl. Bydd hyn yn gwneud yn siŵr fod pob ward ac adran yn ddiogel i gychwyn y diwrnod.

20/01/22
Uned Gofal Dementia Tŷ Enfys yw'r uned gyntaf yn y DU i dderbyn Achrediad Eithriadol 'Meaningful Care Matters'

Mae'n braf iawn gan Uned Gofal Dydd Dementia Tŷ Enfys Kier Hardie fod y cyntaf yng Nghymru i dderbyn achrediad rhagorol 'Meaningful Care Matters'.

18/01/22
Nyrs gymunedol Cwm Taf Morgannwg yn derbyn clod Nyrs y Frenhines

Mae nyrs o Gwm Taf Morgannwg wedi ennill gwobr fawreddog Nyrs y Frenhines am ei gwaith ymroddedig yn y gymuned.

12/01/22
CTM yn lansio system adborth cleifion newydd - CIVICA

Heddiw (Ionawr 13, 2022) mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIP CTM) yn lansio system adborth newydd - CIVICA, i gleifion roi adborth ar eu profiad.

10/01/22
Hysbysiad am Gyfarfod o'r Bwrdd – 27 Ionawr 2022

Dyma hysbysiad y bydd cyfarfod o Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn cael ei gynnal Ddydd Iau 27 Ionawr 2022 am 10:00 am. 

Dilynwch ni: