Mae Canopi yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy’n rhoi mynediad at lefelau amrywiol o gymorth iechyd meddwl i staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Llinell gymorth Vivup dros y ffôn
Gallwch chi siarad yn gyfrinachol â chwnselwyr cymwys ac arbenigwyr cymorth 24 awr y dydd, 365 diwrnod y flwyddyn i drafod unrhyw faterion emosiynol, personol neu faterion sy'n gysylltiedig â’r gwaith.
Gwasanaeth cwnsela
Hunangyfeiriad / Atgyfeiriad Rheolwr i wasanaeth Vivup Counselling.
Gweithdai Lles
Pwrpas y sesiwn hon yw archwilio beth yw lles emosiynol a sut i'w gynnal o ddydd i ddydd
Cwrs byw seiliedig ar ymwybyddiaeth ofalgar
Taith gynyddol dros 8 wythnos. O ddealltwriaeth sylfaenol ac ymgorfforiad o sgiliau myfyrio, i weithio gydag emosiynau, teimladau a meddyliau anodd.
Cwrs byw yn seiliedig ar dosturi
Deall elfennau tosturi a pham mae hunan-dosturi yn hanfodol, yn enwedig yn yr amgylchedd gofal iechyd.
Gweithlyfrau ac adnoddau hunan-gymorth
Mae amrywiaeth eang o weithlyfrau hunangymorth trwy Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) ar gael, sy'n cynnig cyngor ac arweiniad ar amrywiaeth o bynciau.
Menopos yn CTM
Mae Tîm Lles BIP CTM wedi ymrwymo i sicrhau bod cymorth ar gael i’r staff sy’n gweithio yn y Bwrdd Iechyd. Cliciwch yma am fwy o fanylion ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael.
Lles Dynion yn CTM
Byddwn ni’n trafod ffyrdd o roi cymorth i'r rheiny sy'n ystyried eu hunain yn ddynion, gan gynnwys rhannu gwybodaeth, atgyfeiriadau, treialu sesiynau coffi gyda gweithiwr ar hap, teithiau cerdded empathi yn y dyfodol.