Neidio i'r prif gynnwy

Gweithdai lles

Gwybodaeth benodol a strategaethau defnyddiol ar gyfer rheoli pynciau amrywiol. Nod y gweithdai hyn yw atal problemau, felly dydyn nhw ddim yn addas i unigolion sydd ar absenoldeb salwch ar hyn o bryd oherwydd eu hiechyd meddwl.  Am fanylion ynglŷn â beth sydd ar gael, gweler isod.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn ag unrhyw un o'r cyrsiau hyn, cysylltwch â CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk

Adnabod a deall gorbryder

Nod y gweithdy hwn yw trafod beth yw gorbryder, sut mae'n gallu effeithio arnom ni, a'r offer gallwn ni eu defnyddio i adnabod a rheoli gorbryder.

Hyd – 2 awr

Adnabod a deall hwyliau isel

Mae'r gweithdy hwn yn ystyried sut mae hwyliau isel yn gallu effeithio arnom ni.

Adnabod a rheoli straen, gorflinder a thrawma

Nod y gweithdy hwn yw ystyried arwyddion straen, gorflinder a thrawma.

Deall a gwella cwsg

Mae'r gweithdy hwn yn ystyried pam mae cwsg yn bwysig.

Ymlacio ar ôl y gwaith

Diben y sesiwn hon yw ystyried ffyrdd o ymlacio ar ôl y gwaith.

Dilynwch ni: