Neidio i'r prif gynnwy

Hyfywedd Meinwe

Mae ein Gwasanaeth Hyfywedd Meinwe yn darparu gwasanaeth nyrsio arbenigol i gleifion â chlwyfau.

Mae'r gwasanaeth yn darparu asesiadau, cyngor a thriniaeth ar gyfer pob math o glwyfau anodd eu gwella.

Gwasanaeth dan arweiniad nyrs yw hwn sy'n gweithio'n agos gyda Meddygfeydd Teulu ac sydd hefyd yn ymweld â chleifion gartref ac yn yr ysbyty.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae ein Gwasanaeth Hyfywedd Meinwe yn darparu gwasanaeth cynghori ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal iechyd sy'n gofalu am bobl sydd angen triniaeth arbenigol ar glwyfau anodd eu gwella, i drigolion y Rhondda, Cynon, Taf a Merthyr Tudful o bob oed.

Mae'r drefn atgyfeiriadau i'r gwasanaeth hwn yn un agored. Os ydych chi'n teimlo y gallech chi elwa o'r gwasanaeth hwn, siaradwch â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf. Byddai angen bod gweithiwr gofal iechyd proffesiynol yn gofalu am eich clwyf i barhau â'r cynllun a osodwyd.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth hwn?

Cynigir y gwasanaeth hwn trwy atgyfeiriad yn unig ac asesir pob atgyfeiriad i sicrhau ei fod yn addas.

Oriau Agor
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:30 am - 4:30 pm

Beth i'w ddisgwyl

Mae'r Gwasanaeth Hyfywedd Meinwe yn darparu:

  • Ymweliadau â chartrefi cleifion, fel claf mewnol, mewn cartrefi gofal a hefyd mewn Meddygfeydd Teulu.
  • Cyngor a chefnogaeth i dimau amlasiantaeth sy'n gweithio gyda chleifion sy'n datblygu briwiau pwyso
  • Addysg a hyfforddiant amlddisgyblaethol
  • Adolygiadau amlddisgyblaethol o gleifion ar y cyd.
  • Cyngor er mwyn osgoi wlserau pwyso
  • Cydweithio â Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru i ddarparu Llyfr Fformiwla ar gyfer gorchuddion i Gymru gyfan.
  • Canllawiau fformiwlari.

Cysylltwch â ni

Siaradwch â'ch meddyg teulu yn y lle cyntaf.

Dilynwch ni: