Neidio i'r prif gynnwy

Corffdy

Mae'r corffdai yn Ysbyty Brenhinol Morgannwg, Ysbyty'r Tywysog Siarl ac Ysbyty Tywysoges Cymru yn gwasanaethu fel corffdai mewn ysbytai yn ogystal â chorffdai cyhoeddus i gymunedau Rhondda Taf Elái, Merthyr Cynon a Phen-y-bont ar Ogwr.

Mae'r Gwasanaeth Corffdy yn gyfrifol am ofal yr ymadawedig sy'n marw yn yr ysbyty, neu am y rhai sy'n cael eu hanfon i'r ysbyty ar ôl marwolaeth.

Mae'r gwasanaeth yn cynnwys cyfleusterau ar gyfer storio'r corff, rhyddhau corff i drefnwyr angladdau, trefnu i bobl weld y corff a gwasanaethau awtopsi.

Mae gan y gwasanaethau corffdy drwydded HTA ac maent wedi'u hachredu'n llawn i UKAS ISO 15189: 2012.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Mae gwasanaeth awtopsi yn cael ei ddarparu i'r ysbyty ac i'r Crwner.

O dan rai amgylchiadau, rhaid hysbysu'r Crwner am farwolaeth. Gellir gorchymyn bod awtopsi yn cael ei wneud (post mortem).

Dylai'r perthnasau gael eu hysbysu o'r posibilrwydd y bydd angen cynnal un. Mae marwolaethau y mae'n rhaid eu hadrodd yn cynnwys y canlynol: marwolaeth o fewn 24 awr o dderbyn y claf, marwolaeth o fewn 24 awr ar ôl llawdriniaeth, damweiniau, hunanladdiad, afiechyd diwydiannol, amheuaeth o wenwyno, erthyliad, marwolaeth mamau a marwolaeth cleifion lle nad yw achos y farwolaeth yn hysbys.

Mae ein corffdai hefyd ar gyfer teuluoedd sydd wedi trefnu ymweld â'u hanwylyd ar ôl marwolaeth, neu drefnwyr angladdau sy'n gweithredu ar ran teuluoedd yr ymadawedig.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth?

Mae ar gael i gymunedau Rhondda Taf Elái, Merthyr Cynon a Phen-y-bont ar Ogwr, i'r Crwner ac i unrhyw deuluoedd y mae eu hanwylyd yn derbyn gofal yn y corffdy.

Oriau Agor
Dydd Llun i Ddydd Gwener 8:00 am - 4:00 pm

Mae gwasanaeth ar alwad ar gael i gael cyngor a lle mae angen rhyddhau neu dderbyn cyrff ar frys am resymau crefyddol.

Beth i'w ddisgwyl

Awtopsi gan y Crwner: os hysbysir y Crwner am farwolaeth, gellir gorchymyn bod awtopsi yn cael ei wneud (post mortem). Bydd Swyddog y Crwner yn cysylltu â'r teulu i'w hysbysu am hyn.

Gellir gwneud trefniadau i weld y corff yn uniongyrchol gyda'r corffdy. Fodd bynnag, gall y Swyddog Profedigaeth neu Swyddog y Crwner wneud trefniadau dros y rhai sy'n dymuno gweld y corff wrth iddynt ddod i gasglu'r dystysgrif feddygol neu ar adegau eraill weithiau hefyd.

Anogir y rhai sydd am weld y corff i wneud hynny o fewn yr oriau agor arferol a nodir uchod.

Cysylltwch â ni

Corffdy Ysbyty'r Tywysog Siarl, ffôn 01685 728410
Corffdy Ysbyty Brenhinol Morgannwg, ffôn 01443 443463
Corffdy Ysbyty Tywysoges Cymru, ffôn 01656 752496

Dilynwch ni: