Neidio i'r prif gynnwy

Podiatrydd Ymgynghorol BIP CTM Gafin Morgan yw'r Cyntaf yng Nghymru!

Gafin Morgan o Gwm Taf Morgannwg yw Podiatrydd Ymgynghorol cyntaf erioed Cymru.

Ar hyn o bryd mae Gafin yn darparu arweinyddiaeth strategol a chlinigol ar ymarfer arbenigol ar gyfer rheoli gofal y traed a'r ffêr ar draws gwasanaethau BIP CTM (e.e. Podiatreg Gyhyrysgerbydol, Ffisiotherapi, Orthopaedeg, Meddygaeth Chwaraeon ac Ymarfer Corff, Radioleg). Gafin hefyd yw Arweinydd Clinigol y Gwasanaeth Asesu a Thriniaeth Cyhyrysgerbydol Clinigol ar gyfer y Traed a'r Ffêr yn CTM. Mae ganddo arbenigedd clinigol ym maes sonograffeg cyhyrysgerbydol ac mae’n arbenigo mewn diagnosteg ymyriadol a phwynt gofal.

Mae sgiliau arbenigol Gafin o fudd mawr i'r cleifion y mae'n gweithio gyda nhw ar draws CTM. Mae wedi cyflwyno technoleg newydd ac offer mesur sy'n dangos yn fwy cywir gamau gwella meinwe tendonau ac adferiad. Yn ogystal â rheoli ei lwyth achosion clinigol ei hun, mae Gafin yn ymgymryd â rôl addysgol fel mentor ac arholwr uwchsain ôl-raddedig, ac mae’n cydweithio â Gweithwyr Proffesiynol Perthynol i Ofal Iechyd eraill a Meddygon Ymgynghorol Orthopedig, Chwaraeon ac Ymarfer Corff a Radioleg i ddarparu gofal amlddisgyblaethol.

Wrth sôn am lwyddiant ei rôl newydd, dywedodd Gafin: “Mae’n anrhydedd fawr i fod y podiatrydd cyntaf yng Nghymru i ennill statws Ymgynghorol, yn enwedig i gynrychioli fy mhroffesiwn, y Bwrdd Iechyd a defnyddwyr ein gwasanaethau. Mae'n rhaid i mi ddiolch i'm holl gydweithwyr am eu cefnogaeth drwy gydol y deng mlynedd bron y mae wedi cymryd i fi adeiladu fy mhortffolio.

“Un peth rwy’n ei hoffi am fy rôl yw does dim diwrnod arferol. Rwy’n aml yn cydbwyso dyletswyddau clinigol rheoli trawma acíwt neu gyflyrau cronig â chynllunio ymchwil neu drafodaethau strategol. Gall fod yn heriol cadw'r momentwm gyda phrosiectau ymchwil a bod yn gyfforddus yn aros am ganlyniad yn y dyfodol. Rwy’n gobeithio y caiff proffesiynau eraill eu hysbrydoli i ddilyn y llwybr Ymarfer Uwch ac Ymgynghorol ac y bydd fy rôl yn rhoi eglurder ac ysbrydoliaeth i Weithwyr Proffesiynol Perthynol i Ofal Iechyd eraill sy’n dymuno gwneud hyn.”

Dywedodd Denise Jenkins, Pennaeth Gwasanaeth ar gyfer Gwasanaethau Orthotig Podiatreg yn Ysbyty’r Tywysog Siarl: “Mae’n bleser mawr gennym longyfarch Gafin ar ennill statws Podiatrydd Ymgynghorol. Mae Gafin wedi gweithio yn ei rôl Ymarferydd Cwmpas Estynedig presennol ers 2009, gan wthio’r ffiniau proffesiynol yn barhaus trwy ddatblygu rôl gyda chydweithwyr T&O, ennill achrediad Gwyddonydd Siartredig ac arwain Ymchwil arloesol ym maes Podiatreg ac ar gyfer yr agenda cyhyrysgerbydol ehangach.”

 

06/03/2023