Neidio i'r prif gynnwy

Dull newydd o ymdrin a llif cleifion yn Dywysoges Cymru

Mae dull arloesol newydd o reoli llif cleifion yn Ysbyty Tywysoges Cymru wedi'i lansio heddiw, 6 Gorffennaf. Nod Safe 2 Start yw dod â'r holl reolwyr ward at ei gilydd i drafod staffio, capasiti ac ansawdd a diogelwch ar draws yr Ysbyty er mwyn sicrhau bod pob ward ac adran yn ddiogel i ddechrau'r diwrnod.

Mae'r cyfarfodydd dyddiol yn ffordd i nyrsys ac adrannau fynegi unrhyw bryderon a sicrhau bod yr ysbyty'n gallu delio â'r pwysau presennol drwy sicrhau bod pob ward yn staff ac yn gweithio i'r eithaf ac, os nad ydynt, i staff gael eu paratoi ar draws yr ysbyty i gefnogi ei gilydd.

Mae'r prosiect wedi llwyddo i gefnogi nifer o wardiau nad oeddent yn ddiogel i'w dechrau oherwydd cyfyngiadau staffio a chefnogi'r adran achosion brys hynod brysur i helpu i leihau oedi hir o ran ambiwlansys ac aros am welyau drwy nodi capasiti wardiau a symud cleifion wedi'i gynllunio.

Dywedodd Gavin Owen, Rheolwr Gwasanaethau Acíwt Ysbyty Tywysoges Cymru: "Mae ymgorffori'r cysyniad Safe 2 Start yn allweddol i sicrhau gwelliant a newid i'r timau yn Ysbyty Tywysoges Cymru.  Rydym wedi creu dull strwythuredig i'r timau ddisgrifio'r gofynion ar eu wardiau, ond hefyd i ddeall y gofynion y mae ardaloedd eraill yn eu gweld hefyd.  Wrth amlygu pob ardal ward i hyn, rydym bellach wedi gweld newid diwylliannol lle mae wardiau'n berchen ar yr ymateb ac yn ei rannu er mwyn ceisio lleihau a lliniaru'r risg y mae cleifion yn ei brofi ar safle’r Ysbyty.