Mae'r slotiau ymgynghori wedi'u cynllunio ar gyfer rheolwyr sydd eisiau cyngor ar sut i gefnogi aelod penodol o'u tîm sy'n cael trafferth gyda'u lles.
Ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i reolwyr
Trosolwg o arwyddion a symptomau gorbryder ac iselder, yna nifer o drafodaethau ynglŷn â’r stigma sy’n perthyn i iechyd meddwl
Bythau i reolwyr
Ydych chi'n rheolwr sy'n dioddef straen neu flinder? Ydych chi'n gofalu am eich staff ond yn anghofio am eich lles eich hun?
Ymyrraeth neu hyfforddiant arbennig gan y Tîm Lles
Ymyriadau gyda thimau sy'n cael trafferth gyda pherthnasoedd neu broblemau.
Sut ydw i? Sut wyt ti?
Gofod dysgu 4-8 awr wedi’i hwyluso sy’n cynnig syniadau/cysyniadau i dimau ddysgu sut i gefnogi ei gilydd yn y gwaith.
Hyfforddiant Cymorth Cyntaf Iechyd Meddwl
Mae hwn yn ymdrin â nifer o bynciau iechyd meddwl, gan gynnwys gorbryder, iselder, seicosis a chamddefnyddio sylweddau. Byddwch chi’n dysgu hanfodion pob pwnc ar-lein cyn dwy weminar ryngweithiol