Arweiniad Ariannol Am Ddim a Diduedd
- Mae arweiniad ariannol diduedd am ddim ar gael i staff y GIG, o linell gymorth ffôn y GIG – 0800 448 0826. Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
- Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i leihau straen ariannol a chynilo ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi gael cyngor ariannol diduedd am ddim gan Ask Bill – gan gynnwys awgrymiadau ar sut i leihau biliau cyfleustodau, rheoli arian a delio â materion dyled. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Home - Ask Bill
Rwy'n colli fy swydd / mae fy swydd yn cael ei dileu
Osgoi Sgamiau a beth i'w wneud os ydych wedi dioddef sgâm
- Mae awgrymiadau ar sut i adnabod ac osgoi cael eich sgamio ar gael yma, ynghyd â chymorth ar beth i'w wneud os ydych yn credu eich bod wedi dioddef sgâm. Sgamiau| HelpwrArian
Cymorth Lles Ariannol Trwy HSBC
Mae BIP CTM wedi sefydlu partneriaeth â HSBC i gynnig cyfleoedd i’r staff fanteisio ar amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i gadw rheolaeth ar eich sefyllfa ariannol ar bob cam. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim; does dim rhaid i chi fancio gyda HSBC a dydyn nhw ddim yn gwthio eu cynnyrch eu hunain
Gwasanaeth Gwiriad Iechyd Ariannol 1:1 -
- Gallwch chi drefnu sgwrs dros y ffôn gyda hyfforddwr Ffitrwydd Ariannol profiadol i gael Gwiriad Iechyd Ariannol cyflym a hawdd.
- Galwad ffôn 30 munud ydyw sy'n eich galluogi i archwilio pob agwedd ar eich sefyllfa ariannol a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
- Gall hyn fod yn fuddiol ar unrhyw gam bywyd a'r nod yw eich helpu i gyrraedd eich nodau ariannol.
- I drefnu Gwiriad Iechyd Ariannol, ewch i Financial Health Check | Financial Fitness Score - HSBC UK
Sgôr Ffitrwydd Ariannol
- Adnodd Ffitrwydd Ariannol – gall gwybod pa mor iach yw eich sefyllfa ariannol eich helpu i weithio allan pa gamau sydd angen i chi eu cymryd i gyflawni eich nodau.
- Gallwch chi gynhyrchu sgôr ffitrwydd ar gyfer sefyllfa ariannol eich cartref allan o 100 trwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym.
- Mae'n cymryd tua 10 munud a fydd e ddim yn effeithio ar eich sgôr credyd mewn unrhyw ffordd. Byddwch chi hefyd yn cael awgrymiadau i'ch helpu i bennu nodau cyraeddadwy er mwyn gwella'ch iechyd ariannol.
- Gallwch chi ddefnyddio'r adnodd eto yn y dyfodol i weld a yw eich sgôr wedi gwella.
- I gael mynediad at hwn, ewch i Home | HSBC Financial Fitness
Wrth gofrestru, bydd angen i chi nodi mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw eich cyflogwr.