Neidio i'r prif gynnwy

Bydwraig Gymunedol

Janine Thomas

Janine Thomas​ - Bydwraig Gymunedol - Cymuned - Gogledd

Mae Janine yn union sut ddylai seren o fydwraig fod. Mae'n cyfuno gwybodaeth a phrofiad helaeth gyda chyfeillgarwch a chalon enfawr, heb sôn am synnwyr digrifwch anhygoel. Rydw i wedi gallu ymddiried yn Janine, mae’n  hollol ddibynadwy. Mae hi wedi cyflawni ei holl addewidion ac wedi cofio'r manylion bach, fel yr enw ddewisais i fy mabi. Mae hi wedi rhoi amser i mi siarad am fy mhryderon a'm teimladau a gwneud iddyn nhw deimlo’n ddilys. Mae hi wedi gwneud i mi deimlo bod rhywun yn gwrando arna i, yn gofalu amdana i ac wedi gwneud i mi deimlo'n bwysig. Mae hi wedi teimlo fel aelod o'r teulu ac roedden ni'n edrych ymlaen at ei hymweliadau yn hytrach na'u trin fel rhyw faich. Mae hi'n anhygoel!!!

Dilynwch ni: