Neidio i'r prif gynnwy

Ysbyty'r Seren

 

Ysbyty'r Seren
Ystad Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr
Bennett Street
Pen-y-bont ar Ogwr
CF31 3SH

Ysbyty’r Seren yw ysbyty maes BIP Cwm Taf Morgannwg. Cafodd ei ddatblygu i ymateb i bandemig COVID-19.

Mae Ysbyty’r Seren yn gofalu am ein cleifion ar safle ar wahân i’n hysbytai cyffredinol dosbarth. Bydd hyn yn golygu bod mwy o le mewn mannau acíwt i gleifion y mae angen gofal mwy arbenigol arnyn nhw.

Bydd y staff sydd yno yn staff profiadol o CTM sydd wedi cael eu symud o rolau eraill ac o safleoedd eraill yn y Bwrdd Iechyd. Tra byddan nhw’n aros yn yr ysbyty, bydd modd i gleifion gwrdd â’u clinigwyr wrth gael gofal nyrsio ymroddedig ar yr un pryd. Bydd cymorth lles a chymorth therapi ar gael hefyd.

Gan ein bod ni i gyd yn gweithio mewn cyfnod sydd heb ei debyg, mae hi’n amhosib gwybod am ba hyd y bydd Ysbyty’r Seren yn cael ei ddefnyddio. Dylai dawelu eich meddwl ein bod ni wedi llwyddo yn gyflym iawn i sicrhau bod y safle yn barod i dderbyn cleifion a chynnig man diogel i ddarparu gofal nyrsio.

Cyfarwyddiadau

Mae’r ysbyty wedi’i leoli ar Ystâd Ddiwydiannol Pen-y-bont ar Ogwr, Stryd Bennett, Pen-y-bont ar Ogwr, CF31 3SH.
Gadewch yr M4 ar gyffordd 35 (dilynwch yr arwyddion am Ben-y-bont ar Ogwr, Pen-coed, A473).
Cymerwch yr allanfa gyntaf oddi ar y gylchfan ac  Arhoswch ar yr A473.
Ar y gylchfan nesaf, cymerwch y drydedd allanfa i’r ystâd ddiwydiannol.
Dilynwch y ffordd, gan gadw i’r chwith.
Byddwch yn dod at gyffordd letchwith – ewch i’r dde ac yna cymerwch y troad cyntaf ar y chwith.
Yr ysbyty yw’r adeilad enfawr cyntaf ar y chwith.

Dilynwch ni: