O 11 Chwefror 2022, byddwn ni'n gwneud newidiadau yn y cyfyngiadau ymweld ar draws ein hysbytai. Diolch i ymdrechion pawb yn ein cymunedau, mae gostyngiad yng nghyfraddau COVID-19 ar draws CTM.
Erbyn hyn, mae'n braf bod mewn sefyllfa i allu adolygu ein polisi ymweld i deuluoedd cleifion yn ein hysbytai. Mae'r cyfyngiadau sydd wedi bod ar waith wedi peri gofid a thrallod i deuluoedd a gofalwyr, felly rydyn ni'n awyddus i addasu ein polisi yn unol â'r canllawiau cenedlaethol.
Nawr, rydyn ni'n symud at bolisi o ymweld gyda diben, sy'n galluogi ymwelwyr i drefnu slot ymweld â’r ward. Byddwn ni'n parhau i ofyn i ymwelwyr gadw pellter cymdeithasol a gwisgo masgiau i leddfu'r risgiau.
Sylwch: Mae canllawiau mwy penodol ar gyfer ymweld ag adrannau mamolaeth.
Dylai fod pwrpas clir i'ch ymweliad, a dylai hwn fod yn seiliedig ar les gorau'r claf/y defnyddiwr gwasanaeth. Rhaid trefnu pob ymweliad ymlaen llaw gyda'r ward berthnasol, a dylai gynnwys un ymwelydd yn unig yn ystod yr ymweliad. Gofynnwn i chi fynd i mewn i'r ysbyty ar eich pen eich hun oni bai eich bod wedi cytuno fel arall.
Rheoliadau ymweld newydd: