Neidio i'r prif gynnwy

BIP Cwm Taf Morgannwg yn creu rhestr wrth gefn ar gyfer brechiadau rhag COVID-19

BIP Cwm Taf Morgannwg yn creu rhestr wrth gefn ar gyfer brechiadau rhag COVID-19

Mae llythyrau apwyntiad bellach wedi eu hanfon at bobl dros 50 oed yn ardal Cwm Taf Morgannwg, ac fe fydd y llythyrau yn cyrraedd pobl o fewn yr wythnos i’r pythefnos nesaf. Er mwyn sicrhau bod apwyntiadau sydd wedi eu canslo yn cael eu llenwi, a bod dim un brechlyn yn cael ei wastraffu, bydd pobl 40 i 49 oed bellach yn gallu ymgeisio i fod ar restr wrth gefn y Bwrdd Iechyd.

Dim ond pobl sy’n 40 i 49 oed sy’n gallu bod ar y rhestr wrth gefn ar hyn o bryd, ac mae’n rhaid i unrhyw un sydd ar y rhestr fod yn barod i dderbyn galwad ffôn am apwyntiad ar fyr rybudd yn un o ganolfannau brechu’r Bwrdd Iechyd. Wrth i’r Bwrdd Iechyd weithio trwy’r grwpiau blaenoriaeth, bydd grŵp oedran y rhestr hefyd yn newid, er mwyn sicrhau bod y rhestr wrth gefn yn gweithio yn ôl oedran hefyd.

Mae cynnydd bach wedi bod yn y nifer o bobl sydd ddim wedi dod i’w hapwyntiadau yn y canolfannau brechu.

Dywedodd Cyfarwyddwr Cynllunio a Pherfformiad BIP Cwm Taf Morgannwg, Clare Williams: “Rydw i am dawelu meddwl pawb nad yw hon yn broblem fawr, ond dros y wythnosau diwethaf rydym ni wedi gweld bod nifer fach o bobl heb ddod i’w hapwyntiadau. Mae hyn yn rhywbeth rydym ni am fynd i’r afael ag e.

“Nid yw’r un brechlyn wedi ei wastraffu oherwydd hyn, ond bydd y rhestr wrth gefn yn sicrhau y byddwn yn parhau i ddefnyddio pob un ddos sydd ar gael.

Mae manylion cyswllt ar y llythyrau apwyntiad ar gyfer y canolfannau brechu os na fydd modd i chi gyrraedd eich apwyntiad neu os dydych chi ddim am gael y brechlyn.

Dywedodd Clare Williams: “Mewn rhaglen ar y raddfa hon, rydym ni’n ddiolchgar iawn pan fydd pobl yn gwneud eu gorau glas i ddod i’w hapwyntiadau, ond rydym ni’n deall na fydd hi bob tro yn bosibl i bobl ddod.

Y cyfan rydym ni’n gofyn i bobl ei wneud yw rhoi gwybod i ni os na allan nhw ddod am ba reswm bynnag. Gall hyn fod oherwydd eich bod ddim eisiau cael y brechlyn, neu efallai eich bod wedi cael y brechlyn yn barod yn rhywle arall...beth bynnag bo’r rheswm, cysylltwch â ni i roi gwybod.

“That means we can make sure your appointment goes to someone else.”

I wneud cais i fod ar restr wrth gefn y Bwrdd Iechyd, llenwch y ffurflen hon ar ein gwefan trwy’r ddolen hon:Cais i fod ar restr wrth gefn BIP Cwm Taf Morgannwg. Bydd gofyn i chi ddarparu prawf o’ch oedran os cewch chi apwyntiad brechu.

Mae mwy nag un ym mhob dau berson yn ardal Cwm Taf Morgannwg wedi cael y ddos gyntaf, ac mae’r Bwrdd Iechyd yn hyderus y bydd yn cyflawni ei darged o frechu pawb yn y grwpiau blaenoriaeth (1-9) erbyn canol Ebrill.

Dywedodd Clare Williams: “Mae’n anhygoel meddwl faint mae ein timau wedi eu cyflawni mewn cyfnod mor fyr; rydym ni wedi rhoi bron i filiwn o frechlynnau.

“Mae hyn oll oherwydd ein timau brechu, ein cydweithwyr ym maes Gofal Sylfaenol, ein partneriaid llywodraeth leol a’r timau amrywiol mewn cynifer o adrannau sydd wedi cydweithio i sicrhau llwyddiant.

“Diolch i’n cymunedau hefyd, am weithio gyda ni ac am fod mor amyneddgar.

“Rydym ni’n benderfynol o fod wedi cynnig y brechlyn i bob oedolyn yn ardal Cwm Taf Morgannwg erbyn diwedd Gorffennaf.

"Rwy'n credu ei bod yn bwysig pwysleisio hefyd nad oes neb yn cael ei ddiogelu nes ein bod i gyd wedi'n diogelu. Mae hynny'n golygu, ni waeth a ydym ni wedi cael un ddos ai peidio neu wedi cael ein brechu'n llawn ai peidio, ein bod i gyd yn parhau i ddilyn y rheolau presennol ac, yr un mor bwysig â hynny, ein bod yn cofio ‘dwylo, gofod, wyneb’ wrth i ni fyw ein bywydau ac amddiffyn ein cymunedau. 

Am y diweddaraf am raglen frechu BIP Cwm Taf Morgannwg, ewch i’n gwefan i weld y newyddion diweddaraf ar gyfer pob grŵp blaenoriaeth: Gwybodaeth am y brechlyn rhag COVID-19.