Ddoe ymwelodd Vaughan Gething (Gweinidog dros Economi Cymru) ag Ysbyty’r Tywysog Siarl ym Merthyr Tudful i weld sut mae’r rhaglen adnewyddu gwerth £260m yn dod yn ei blaen.
Ddydd Llun 13 Mawrth, lansiodd Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg a Phrifysgol De Cymru (PDC) wasanaeth atgyfeirio iechyd meddwl newydd i fyfyrwyr.
Mae ymgyrch newydd wedi’i lansio heddiw i godi safonau a gwella gofal dementia ledled Rhondda Cynon Taf, Pen-y-bont ar Ogwr a Merthyr Tudful.
Mae'r wythnos hon yn Wythnos Cysgu Mwy Diogel ymgyrch ymwybyddiaeth sy'n cael ei rhedeg gan Lullaby Trust i gynghori rhieni a gofalwyr am beryglon syndrom marwolaeth sydyn i fabanod a'r cyngor syml sy'n lleihau'r risg y bydd yn digwydd.
Mae tîm prosiect sy’n torri amseroedd aros ar gyfer cleifion mewn cartrefi gofal ym Mhen-y-bont ar Ogwr, sydd angen cael cyngor amlddisgyblaethol, wedi rhoi cyflwyniad yn Niwrnod Hyb Cymru Coleg Brenhinol y Therapyddion Iaith a Lleferydd (RCSLT) yr wythnos hon.
Ddydd Sadwrn 4 Mawrth, enillodd timau Dysgu a Datblygu a Datblygu’r Gweithlu BIP Cwm Taf Morgannwg dair gwobr fawreddog yng Ngwobrau CIPD Cymru, gan olygu mai BIP CTM oedd y sefydliad mwyaf cydnabyddedig yn y seremoni wobrwyo!
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi newidiadau i Raglen Frechu Covid-19.
Gafin Morgan o Gwm Taf Morgannwg yw Podiatrydd Ymgynghorol cyntaf erioed Cymru.
Gyda'r gwaith sy’n mynd yn ei flaen yn Ysbyty'r Tywysog Siarl, rydyn ni’n awyddus i wella'r amgylchedd ar gyfer cleifion ac ymwelwyr lle y gallwn.
Dydd Llun 20 - Dydd Mercher 22 Chwefror 2023, bydd yr undeb llafur sy'n cynrychioli staff Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru yn cymryd camau gweithredu diwydiannol. Bydd y camau hyn yn cael effaith sylweddol ar allu’r gwasanaeth ambiwlans i ymateb i alwadau.
Mae dwy uned symudol newydd ar gyfer sgrinio'r fron bellach wedi'u lleoli yn ardal Pen-y-bont ar Ogwr; un yng nghanolfan siopa McArthur Glen a'r llall ym Mhwll Nofio Canolfan Hamdden Halo ym Mhencoed.
Mae newidiadau i lawdriniaeth orthopedig yn Ysbyty Tywysoges Cymru yn caniatáu i rai cleifion sydd angen clun neu ben-glin newydd ddychwelyd adref ar yr un diwrnod â derbyn eu llawdriniaeth.
Mae Rhaglen Gofal y Cymalau CTM yn rhaglen sydd wedi'i theilwra’n arbennig i wella symudedd a gweithrediad pobl sydd â phoen yn eu pen-glin neu eu clun.
Os ydych yn gymwys i gael brechlyn ffliw neu COVID-19 mae pob un o’n CGSau bellach yn cynnig apwyntiadau brechu galw i mewn.
Ar ddydd Llun 6 a dydd Mawrth 7 Chwefror, bydd streic gan y Coleg Nyrsio Brenhinol a Choleg Brenhinol y Bydwragedd (dydd Mawrth yn unig) ar wasanaethau ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg.
Heddiw (dydd Iau, 2 Chwefror), mae partneriaid academaidd a diwydiant ledled Cymru wedi dod ynghyd i edrych ar sut y gallan nhw weithio'n agosach gyda'i gilydd er mwyn gwella iechyd a lles cymunedau Cwm Taf Morgannwg a gwella ansawdd y gofal a'r gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn.
Rydym yn buddsoddi mewn gwaith adeiladu ac adnewyddu sylweddol yn yr Adran Achosion Brys yn Ysbyty Tywysoges Cymru, gyda'r nod o wella gwasanaethau i bawb sy'n defnyddio'r Adran.
Yn gynharach yr wythnos hon, (16 Ionawr), derbyniodd Parc Iechyd Dewi Sant ym Mhontypridd Blac Glas i goffáu lleoliad y Parc Iechyd ar hen safle Wyrcws Undeb Pontypridd.