Mae gwaith brys ar y gweill yn Ysbyty Tywysoges Cymru ym Mhen-y-bont ar Ogwr, lle darganfuwyd bod dŵr glaw yn gollwng i'r adeilad.
Drwy gydol mis Hydref byddwn yn cynnal digwyddiadau ymgysylltu a sesiynau dysgu ar gyfer ein holl staff i dynnu sylw at bwysigrwydd Mis Hanes Pobl Ddu ac i helpu i ddatblygu ein hymrwymiadau o dan Gynllun Gweithredu Cymru Wrth-Hiliol.
Mae’r astudiaeth QuicDNA wedi gwneud darganfyddiadau pwysig o ran diagnosis canser yr ysgyfaint ac mae newydd gyrraedd carreg filltir bwysig wrth i’r prosiect gael ei gyflwyno mewn chwech Bwrdd Iechyd yng Nghymru.
Mae gwasanaeth Therapi Gwybyddol Ymddygiadol (CBT) Ar-lein GIG Cymru wedi sefydlu llwybr atgyfeirio newydd gyda'r tîm amenedigol ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM).
Wrth i ni fynd i mewn i'r penwythnos, mae ein hysbytai eisoes yn hynod o brysur. Yn ogystal, rydym yn rheoli effeithiau’r tywydd garw, gwlyb ar Ysbyty Tywysoges Cymru sy’n achosi rhywfaint o aflonyddwch ar y safle hwn.
Rydym yn dechrau gweld mwy o salwch, fel 'ffliw, annwyd, ac anhwylderau bol yn ein cymunedau ac mewn ysbytai. Dyma beth allwch chi ei wneud i helpu'r GIG i gadw anhwylderau i ffwrdd.
Mae Wythnos Rhoi Organau eleni, sy'n cael ei dathlu rhwng 23-29 Medi, yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Fy enw i yw Rhys ac mae fy mywyd wedi cael ei achub ddwywaith trwy roi organau oherwydd dau drawsblaniad calon, yn 2011 yn 25 oed a 2021 yn 35 oed.
Yr wythnos hon rydym yn dathlu Wythnos Rhoi Organau rhwng 23 a 29 Medi 2024.
Mae Wythnos Rhoi Organau eleni (23-29 Medi) yn nodi 30 mlynedd ers sefydlu Cofrestr Rhoddwyr Organau'r GIG.
Cynhelir Wythnos Ryngwladol Pobl Fyddar rhwng 23 ain -29 Medi 2024.
Mae Johnsons Workwear yn Nhrefforest wedi codi dros £700 i gefnogi eu cydweithiwr a Chanolfan Bronnau’r Lili Wen Fach.
Bob blwyddyn ar 13 Medi, rydym yn ymuno â sefydliadau ac unigolion ledled y byd i nodi Diwrnod Sepsis y Byd.
Rhwng 16 a 20 Medi, byddwn yn cynnal cyfres o stondinau dros dro ac yn rhoi cyngor a gwybodaeth am atal cwympiadau.
Mae RSV yn achosi rhwng 400-600 o farwolaethau ymhlith oedolion hŷn a thros 1,000 o dderbyniadau i'r ysbyty mewn babanod ifanc yng Nghymru bob blwyddyn. Bydd y rhaglen frechu RSV newydd sy'n cael ei lansio heddiw yn darparu amddiffyniad yn erbyn yr haint anadlol mwyaf cyffredin yn ystod plentyndod am y tro cyntaf yng Nghymru.
Mae cynlluniau i gyflwyno system bresgripsiynau electronig newydd yn holl ysbytai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg (BIPCTM) wedi cymryd cam mawr ymlaen heddiw (Dydd Mawrth, 3 Medi 2024) gyda’r cyhoeddiad bod y bwrdd iechyd wedi dewis Nervecentre fel ei gyflenwr technoleg.
Cododd staff BIPCTM o Ysbyty Brenhinol Morgannwg ac Ysbyty Cwm Rhondda dros £2,000 ar gyfer Elusen GIG Cwm Taf Morgannwg a chleifion lleol, drwy gerdded ar dri chopa mynydd uchaf Cymru’r haf hwn.
Mae prosiect celf a gefnogir gan staff, cleifion a’r gymuned leol i helpu cleifion canser y fron Cwm Taf Morgannwg wedi’i gwblhau
Bydd digwyddiad Gyrfaoedd Therapi Iaith a Lleferydd Cymru Gyfan am ddim yn cael ei gynnal ar-lein ddydd Gwener 11 Hydref o 8:45yb-12:00yp.
Mae tîm o staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yn wardiau Gofal i'r Henoed yn ysbyty Tywysoges Cymru wedi partneru â Daring to Dream, elusen leol, i gynnal sesiynau cerddoriaeth fyw bob pythefnos i gleifion ac ymwelwyr ar y wardiau.