Neidio i'r prif gynnwy

Pensetiau realiti rhithiol

Hoffech chi ddianc i draeth, neu wneud ymarferion anadlu ystyriol wrth edrych dros y môr? Gallwch chi fenthyg penset realiti rhithiol oddi wrthym ni am 8 wythnos a gwneud yn union hynny! Mae’n braf iawn bod y Bwrdd Iechyd cyntaf yng Nghymru i gynnig y dechnoleg arloesol hon i'n staff. Mae’n cynnig profiad o ymgolli, lle cewch chi ymlacio, chwarae gemau a chael blas ar ymwybyddiaeth ofalgar, a hynny mewn ffordd newydd yng nghysur eich cartref. Gallwch chi fwynhau golygfeydd hyfryd, ymarfer dulliau o ymlacio a dysgu technegau ymwybyddiaeth ofalgar sylfaenol.

E-bostiwch ni ar CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk i gael benthyg un.

Dilynwch ni: