Neidio i'r prif gynnwy

Grŵp cymorth emosiynol ar gyfer COVID Hir

Dyma grŵp cymorth anffurfiol gan gymheiriaid sy’n rhoi cyfle i’r staff rannu eu profiadau, uchafbwyntiau ac isafbwyntiau o fyw gyda'r cyflwr hwn, a’r cyfan mewn amgylchedd diogel. Maen nhw hefyd yn rhannu gwybodaeth, cymorth emosiynol a strategaethau ymdopi. Does dim rhaid aros yn aelod o’r grŵp, ac mae pobl yn mynd a dod fel y dymunant. Mae rhai aelodau o’r staff sy’n rhan o’r grŵp i ffwrdd o’r gwaith yn sâl, ac mae rhai wedi dychwelyd i’r gwaith. Mae'r grŵp yn cyfarfod bob pythefnos ar Teams.

Os oes diddordeb gydag aelod o’r staff mewn dod i'r Grŵp Cymorth Covid Hir, mae angen e-bostio Lles CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk i gofrestru eu diddordeb.

Hyd: 1 awr bob pythefnos.

Dilynwch ni: