Deall elfennau tosturi a pham mae hunan-dosturi yn hanfodol, yn enwedig yn yr amgylchedd gofal iechyd. Byddwch chi’n dysgu sut i reoli emosiynau, meddyliau a theimladau gydag arferion ymwybyddiaeth ofalgar seiliedig ar dosturi, yn ogystal ag adnoddau ac ap.
Sesiynau 2 awr o hyd yw’r rhain, fydd yn trafod ac yn ymgorffori technegau ymwybyddiaeth ofalgar, er budd personol, gan wella eich deallusrwydd emosiynol a’ch gallu i reoli pryder a straen.
Mae modd cynnal y sesiynau dros MS Teams neu'n bersonol mewn grwpiau o 6-8
Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk