Mae Canopi yn cynnig gwasanaeth cyfrinachol rhad ac am ddim sy’n rhoi mynediad at lefelau amrywiol o gymorth iechyd meddwl i staff y GIG a gofal cymdeithasol yng Nghymru.
Y Samariaid
Gwasanaeth llinell gymorth yw’r Samariaid sydd ar gael 24 awr y dydd, saith diwrnod yr wythnos.
C.A.L.L. – Llinell Gymorth Iechyd Meddwl ar gyfer Cymru
Mae C.A.L.L. yn cynnig gwasanaethau cymorth a gwrando cyfrinachol rhad ac am ddim.
PAPYRUS
PAPYRUS yw’r elusen genedlaethol ar gyfer atal hunanladdiad ymysg pobl ifanc.
Shout
Gwasanaeth yw Shout 85258 sy’n cynnig cymorth 24/7 i unrhyw un sy'n cael trafferth ymdopi, a hynny dros negeseuon testun cyfrinachol, rhad ac am ddim.
Cymorth profedigaeth Cruse
Mae Cruse yn helpu pobl yn ystod un o adegau mwyaf poenus mewn bywyd, gyda chymorth, gwybodaeth ac ymgyrchu ar gyfer profedigaeth.
DAN 247
Llinell gymorth ddwyieithog, 24/7, rad ac am ddim dros y ffôn, sy'n darparu un pwynt cyswllt i unrhyw un yng Nghymru sydd am gael rhagor o wybodaeth a/neu gymorth sy’n ymwneud â chyffuriau a/neu alcohol.
Alcoholics Anonymous
Unig nod AA yw helpu pobl sy’n gaeth i alcohol i wella a pharhau’n sobr.
Narcotics Anonymous
Os oes problem o ran cyffuriau gyda chi, unigolion ydyn ni sydd wedi gwella ar ôl bod yn gaeth i gyffuriau, a gallwn ni eich helpu chi i aros yn lân.
Gamblers Anonymous
Cymrodoriaeth o ddynion a menywod yw Gamblers Anonymous sydd wedi dod at ei gilydd i wneud rhywbeth am eu problem gamblo eu hunain ac i helpu gamblwyr cymhellol eraill i wneud yr un peth.
Cymdeithas Alzheimer
Maen nhw’n darparu cymorth ar gyfer Dementia, p'un a ydy Dementia’n effeithio arnoch chi, ar anwylyd, ar ffrind neu ar gymydog.
OCD Action
Cymorth i bobl gydag anhwylder gorfodaeth obsesiynol (OCD).
Beat Eating Disorders
Cymorth a gwybodaeth i bobl gydag anhwylderau bwyta.
Cymorth i Fenywod RhCT
Cymorth i’r rheiny sy’n wynebu trais a cham-drin domestig (gan gynnwys dynion)
Cam-drin domestig a thrais
Os ydych chi’n wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol, os ydych wedi wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol, neu’n poeni am ffrind neu berthynas sy’n wynebu cam-drin domestig neu drais rhywiol.
Cyngor ar Bopeth RhCT
Cyngor ac ymgyrchu cyfrinachol a diduedd am ddim ar faterion mawr sy'n effeithio ar fywyd pobl, gan gynnwys problemau ariannol, budd-daliadau, tai neu gyflogaeth.