Neidio i'r prif gynnwy

Lles Corfforol

Pam mae gweithgaredd corfforol yn bwysig?

Mae ffyrdd modern o fyw yn golygu, mewn rhai swyddi, y gall dros 50% o gyfanswm yr amser eistedd ddigwydd yn y gwaith ac mewn rhai achosion, gall ymddygiad eisteddog gymryd dwy ran o dair o'r amser y byddwn yn effro bob dydd.

Mae bod yn gorfforol egnïol yn rhan bwysig o fywyd o ddydd i ddydd a gyda’r gofynion heddiw arnon ni a ffyrdd prysur o fyw, gall ymarfer corff fod yn anodd weithiau i'w gynnwys yn y drefn ddyddiol, felly gall helpu pobl i'w gynnwys yn eu dydd fod o fudd i bawb.
 

Beth yw ystyr gweithgaredd corfforol?

Mae’r canllawiau a argymhellir yn nodi y dylai oedolion geisio bod yn egnïol bob dydd ac anelu at wneud o leiaf 150 munud o weithgarwch corfforol dros yr wythnos, drwy amrywiaeth o weithgareddau.  Mae hyn yn cyfateb i 22 munud o weithgarwch corfforol y dydd.

Er mwyn i unrhyw weithgaredd fod o fudd i'ch iechyd, mae angen i chi fod yn symud yn ddigon cyflym i:

Lefelau o ymdrech

Mae 2 lefel wahanol o ymdrech ar gyfer gweithgareddau corfforol.  Sylwch - mae lefel ffitrwydd pawb yn wahanol felly gallai beth sy'n teimlo'n gymedrol i un person deimlo'n egnïol i rywun arall.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn ‘asesu’ eich corff yn rheolaidd wrth wneud gweithgaredd corfforol i weld beth sy’n addas i chi.

 

Mae lefel ffitrwydd pawb yn wahanol felly gallai beth sy'n teimlo'n gymedrol i un person deimlo'n egnïol i rywun arall.  Gwnewch yn siŵr eich bod yn ‘asesu’ eich corff yn rheolaidd wrth wneud gweithgaredd corfforol i weld beth sy’n addas i chi.

Beth yw'r canllawiau a argymhellir gan y llywodraeth a beth mae hynny'n ei olygu?

Yn seiliedig ar y canllawiau a argymhellir, bob wythnos, dylai oedolion geisio gwneud o leiaf 150 munud (2 ½ awr) o weithgarwch corfforol cymedrol NEU 75 munud o weithgarwch egnïol.  Gallwch chi wneud hyn mewn amrywiaeth o ffyrdd naill ai drwy wneud cyfnodau byrrach o weithgarwch egnïol; neu gyfuniad o ddwyster cymedrol ac egnïol.

Cofiwch, gwnewch yn siŵr eich bod yn ystyried eich corff yn rheolaidd wrth wneud gweithgaredd corfforol.

Manteision Gweithgaredd Corfforol

Yma fe welwch chi ffyrdd o wneud gweithgarwch corfforol yn rhan o'ch trefn ddyddiol i'ch gwneud chi'n iachach. Mae tystiolaeth wyddonol gref y gall bod yn gorfforol egnïol eich helpu i fyw bywyd iachach a hapusach.

  • Gall leihau eich risg o salwch mawr fel:
    • Clefyd coronaidd y galon
    • Strôc
    • Diabetes math 2
    • Canser
  • Gall leihau eich risg o farwolaeth gynnar hyd at 30%
  • Mae astudiaethau wedi dangos ei fod yn:
    • Gwella cwsg
    • Gwella hwyliau
    • Lleihau straen, pryder ac iselder
    • Helpu i reoli menopos
    • Gwella ansawdd bywyd
  • Mae'n rhad ac am ddim, yn hawdd i'w gymryd, yn cael effaith ar unwaith a does dim angen meddyg teulu arnoch i gael rhywfaint.

Mae llawer o fanteision i ymarfer corff yn rheolaidd fel y gwelir yn y ffeithlun isod:

Dydy hi byth yn rhy hwyr i ddechrau ac mae gwneud ychydig yn dda ond mae gwneud mwy yn well.

Adnoddau: Manteision Gweithgaredd Corfforol

Os hoffech ddarganfod mwy, dyma rai dolenni a allai fod yn ddefnyddiol i chi:

Ble ydw i?

Waeth ble rydych chi ar eich taith lles corfforol, yma fe welwch chi ffyrdd y gallwch chi wneud gweithgaredd corfforol yn rhan o'ch trefn ddyddiol. Cliciwch ar y blwch sydd fwyaf perthnasol i chi:

Dilynwch ni: