Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf mewn trafferthion ariannol ac angen cymorth

Delio â dyled

  • Mae cymorth a chyngor i'ch helpu i reoli dyled, a gwybodaeth am sut i fenthyca'n fforddiadwy, ar gael yn Delio â dyled | Helpwr Arian Mae hwn yn dangos i chi sut i siarad â'r bobl y mae arnoch arian iddynt ac yn rhoi awgrymiadau i'ch helpu i dalu'ch dyledion yn y drefn gywir.
  • Os oes angen help arnoch i ddod o hyd i gyngor am ddim ar reoli dyled, mae lleolwr cyngor ar ddyledion ar gael yma Defnyddio ein lleolwr cyngor ar ddyledion | Helpwr Arian

Rwy'n cael trafferth talu fy miliau

Grantiau sydd ar gael a chymorth ariannol gan Elusennau

Cefnogaeth gan undebau llafur

Os ydych yn aelod o undeb llafur, efallai y bydd cymorth ar gael i chi hefyd ar ffurf grant. Mae'r sefydliadau canlynol yn darparu cynlluniau caledi

Dwi angen help gyda gamblo

Banc Bwyd

  • Os ydych mewn argyfwng ariannol ac yn cael trafferth darparu bwyd i chi'ch hun neu'ch teulu yna ffoniwch 0808 2082138 am ddim (ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener, 9am-5pm) i siarad yn gyfrinachol â chynghorydd Cyngor ar Bopeth hyfforddedig. Gallant helpu i fynd i’r afael â’ch argyfyngau a darparu cymorth i wneud y mwyaf o’ch incwm, eich helpu i lywio’r system budd-daliadau, a nodi unrhyw grantiau ychwanegol y gallech fod â hawl iddynt. Os oes angen, byddant yn rhoi taleb i chi fel y gallwch gael parsel bwyd brys gan eich banc bwyd lleol. Gellir cael rhagor o wybodaeth am fanciau bwyd drwy fynd i The Trussell Trust - Stop UK Hunger

Mae fy arian yn cael ei reoli gan rywun arall

  • Os yw rhywun sy'n agos atoch chi'n rheoli'ch arian neu sut neu ar beth rydych chi'n gwario'ch arian, neu os ydych chi'n meddwl bod rhywun rydych chi'n ei adnabod yn cael ei gam-drin yn ariannol, mae cymorth ar gael 24/7 ar Linell Gymorth Byw Heb Ofn – ffoniwch 0808 8010800, Testun 07860077333, e-bost info@livefearfreehelpline.wales neu ewch i Llinell Gymorth Byw Heb Ofn | LLYWODRAETH CYMRU

Ask Bill

  • Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i leihau straen ariannol a chynilo ar gyfer y dyfodol.  Gallwch chi gael cyngor ariannol diduedd am ddim gan Ask Bill – gan gynnwys awgrymiadau ar sut i leihau biliau cyfleustodau, rheoli arian a delio â materion dyled.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch iHome - Ask Bill
Dilynwch ni: