Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf eisiau gwneud y mwyaf o fy incwm

Buddion Gweithwyr ar gyfer staff Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg

  • Os ydych yn gweithio i Fwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg, mae amryw o ostyngiadau a buddion gweithwyr ar gael i chi. Gellir dod o hyd i wybodaeth ar SharePoint yn Hafan - Buddion Gweithwyr

Gwybodaeth a chyngor ar hawlio budd-daliadau'r wladwriaeth

Cymorth ariannol i bobl â chanser

  • Mae Cymorth Canser MacMillan yn cynnig cyngor i staff â chanser a’u teuluoedd, naill ai drwy Linell Gymorth Canser Genedlaethol Macmillan 0808 808 0000 neu mae gennym ddau Gynghorydd Budd-daliadau Lles MacMillan ar y safle – RGH (07766924226) a PCH (01685 721721 est 26995)

Cymorth ariannol i bobl sy’n byw gyda chyflwr iechyd corfforol neu feddyliol hirdymor

Cymorth a chyngor ariannol i Ofalwyr

  • Os ydych yn gofalu am berthynas neu ffrind oedrannus, mae cymorth a chyngor ar gael gan Age Concern Cymru ar 0300 3034498 neu anfonwch e-bost at advice@agecymru.org.uk

Ask Bill

  • Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i leihau straen ariannol a chynilo ar gyfer y dyfodol.  Gallwch chi gael cyngor ariannol diduedd am ddim gan Ask Bill – gan gynnwys awgrymiadau ar sut i leihau biliau cyfleustodau, rheoli arian a delio â materion dyled.  I gael rhagor o wybodaeth, ewch iHome - Ask Bill

Cymorth Lles Ariannol Trwy HSBC

Mae BIP CTM wedi sefydlu partneriaeth â HSBC i gynnig cyfleoedd i’r staff fanteisio ar amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i gadw rheolaeth ar eich sefyllfa ariannol ar bob cam. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim; does dim rhaid i chi fancio gyda HSBC a dydyn nhw ddim yn gwthio eu cynnyrch eu hunain.  

  • Gweminarau Lles Ariannol Always On. Gweminarau cyhoeddus 30 neu 60 munud o hyd yw’r rhain sy’n delio â phynciau amrywiol gan gynnwys Cynilion, Cyllidebu, Buddsoddi, Ymdopi â Chostau Byw a Dewisiadau Cynaliadwy. Mae 3 bob diwrnod gwaith. I weld yr amserlen ac i archebu lle i chi’ch hun, ewch i Financial Health Check | Financial Fitness Score - HSBC UK
  • Adnodd Ffitrwydd Ariannol – gall gwybod pa mor iach yw eich sefyllfa ariannol eich helpu i weithio allan pa gamau sydd angen i chi eu cymryd i gyflawni eich nodau. Gallwch chi gynhyrchu sgôr ffitrwydd ar gyfer sefyllfa ariannol eich cartref allan o 100 trwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym. Mae'n cymryd tua 10 munud a fydd e ddim yn effeithio ar eich sgôr credyd mewn unrhyw ffordd. Byddwch chi hefyd yn cael awgrymiadau i'ch helpu i bennu nodau cyraeddadwy er mwyn gwella'ch iechyd ariannol. Gallwch chi ddefnyddio'r adnodd eto yn y dyfodol i weld a yw eich sgôr wedi gwella. I gael mynediad at hwn, ewch i Home | HSBC Financial Fitness

Wrth gofrestru, bydd angen i chi nodi mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw eich cyflogwr.

Dilynwch ni: