Neidio i'r prif gynnwy

Rwyf eisiau dysgu sut i reoli fy arian yn dda

Cwrs Rhad ac Am Ddim i Staff Cwm Taf Morgannwg

  • Os hoffech gael help i gael mwy o ddealltwriaeth a hyder wrth reoli eich arian, mae’r Cwrs Affinity – Focus on your Finance yn ymdrin â gwybodaeth am gyllidebu, benthyca, pensiynau, morgeisi, treth, cynilion a buddsoddiadau
  • I'r rhai sy'n ymddeol yn fuan, mae'r Cwrs Preparing for Retirement gan Affinity yn eich tywys trwy'r materion ariannol allweddol y bydd angen i chi eu hystyried o bosib.

I gadw lle ar unrhyw un o'r ddau gwrs hyn, anfonwch e-bost at bookings@affinityconnect.org

Cymorth Cyllidebu

Pan fydd eich amgylchiadau personol yn newid

  • Gellir cael cyngor ar-lein ar sut y gall newidiadau mewn bywyd teuluol (e.e. dod yn rhiant / ysgariad / plant yn mynd i'r brifysgol / gofalu am yr henoed ac ati) effeithio ar eich lles ariannol yma Teulu a gofal | Helpwr Arian

Cyngor Pensiynau

Cymorth Lles Ariannol Trwy HSBC

Mae BIP CTM wedi sefydlu partneriaeth â HSBC i gynnig cyfleoedd i’r staff fanteisio ar amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i gadw rheolaeth ar eich sefyllfa ariannol ar bob cam. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim; does dim rhaid i chi fancio gyda HSBC a dydyn nhw ddim yn gwthio eu cynnyrch eu hunain.  

  • Gweminarau Lles Ariannol Always On. Gweminarau cyhoeddus 30 neu 60 munud o hyd yw’r rhain sy’n delio â phynciau amrywiol gan gynnwys Cynilion, Cyllidebu, Buddsoddi, Ymdopi â Chostau Byw a Dewisiadau Cynaliadwy. Mae 3 bob diwrnod gwaith. I weld yr amserlen ac i archebu lle i chi’ch hun ar y gweminarau, ewch i Financial Health Check | Financial Fitness Score - HSBC UK
  • Adnodd Ffitrwydd Ariannol – gall gwybod pa mor iach yw eich sefyllfa ariannol eich helpu i weithio allan pa gamau sydd angen i chi eu cymryd i gyflawni eich nodau. Gallwch chi gynhyrchu sgôr ffitrwydd ar gyfer sefyllfa ariannol eich cartref allan o 100 trwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym. Mae'n cymryd tua 10 munud a fydd e ddim yn effeithio ar eich sgôr credyd mewn unrhyw ffordd. Byddwch chi hefyd yn cael awgrymiadau i'ch helpu i bennu nodau cyraeddadwy er mwyn gwella'ch iechyd ariannol. Gallwch chi ddefnyddio'r adnodd eto yn y dyfodol i weld a yw eich sgôr wedi gwella. I gael mynediad at hwn, ewch i Home | HSBC Financial Fitness

Wrth gofrestru, bydd angen i chi nodi mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw eich cyflogwr.

Dilynwch ni: