Neidio i'r prif gynnwy

Mae angen rhywfaint o arweiniad arnaf ar reoli fy arian

Arweiniad Ariannol Am Ddim a Diduedd

  • Mae arweiniad ariannol diduedd am ddim ar gael i staff y GIG, o linell gymorth ffôn y GIG – 0800 448 0826. Dydd Llun i ddydd Gwener, 8am i 6pm
  • Yn ystod y cyfnod heriol hwn, mae'n bwysig sicrhau eich bod yn cael y cymorth sydd ei angen arnoch i leihau straen ariannol a chynilo ar gyfer y dyfodol. Gallwch chi gael cyngor ariannol diduedd am ddim gan Ask Bill – gan gynnwys awgrymiadau ar sut i leihau biliau cyfleustodau, rheoli arian a delio â materion dyled. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i Home - Ask Bill

Rwy'n colli fy swydd / mae fy swydd yn cael ei dileu

Osgoi Sgamiau a beth i'w wneud os ydych wedi dioddef sgâm

  • Mae awgrymiadau ar sut i adnabod ac osgoi cael eich sgamio ar gael yma, ynghyd â chymorth ar beth i'w wneud os ydych yn credu eich bod wedi dioddef sgâm. Sgamiau| HelpwrArian

Cymorth Lles Ariannol Trwy HSBC

Mae BIP CTM wedi sefydlu partneriaeth â HSBC i gynnig cyfleoedd i’r staff fanteisio ar amrywiaeth o gymorth i'ch helpu i gadw rheolaeth ar eich sefyllfa ariannol ar bob cam. Mae'r rhain yn rhad ac am ddim; does dim rhaid i chi fancio gyda HSBC a dydyn nhw ddim yn gwthio eu cynnyrch eu hunain

Gwasanaeth Gwiriad Iechyd Ariannol 1:1 -

  • Gallwch chi drefnu sgwrs dros y ffôn gyda hyfforddwr Ffitrwydd Ariannol profiadol i gael Gwiriad Iechyd Ariannol cyflym a hawdd.
  • Galwad ffôn 30 munud ydyw sy'n eich galluogi i archwilio pob agwedd ar eich sefyllfa ariannol a gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych.
  • Gall hyn fod yn fuddiol ar unrhyw gam bywyd a'r nod yw eich helpu i gyrraedd eich nodau ariannol.
  • I drefnu Gwiriad Iechyd Ariannol, ewch i Financial Health Check | Financial Fitness Score - HSBC UK

Sgôr Ffitrwydd Ariannol

  • Adnodd Ffitrwydd Ariannol – gall gwybod pa mor iach yw eich sefyllfa ariannol eich helpu i weithio allan pa gamau sydd angen i chi eu cymryd i gyflawni eich nodau.  
  • Gallwch chi gynhyrchu sgôr ffitrwydd ar gyfer sefyllfa ariannol eich cartref allan o 100 trwy ateb ychydig o gwestiynau cyflym.  
  • Mae'n cymryd tua 10 munud a fydd e ddim yn effeithio ar eich sgôr credyd mewn unrhyw ffordd. Byddwch chi hefyd yn cael awgrymiadau i'ch helpu i bennu nodau cyraeddadwy er mwyn gwella'ch iechyd ariannol.  
  • Gallwch chi ddefnyddio'r adnodd eto yn y dyfodol i weld a yw eich sgôr wedi gwella.  
  • I gael mynediad at hwn, ewch i Home | HSBC Financial Fitness

Wrth gofrestru, bydd angen i chi nodi mai Bwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg yw eich cyflogwr.

Dilynwch ni: