Neidio i'r prif gynnwy

Y tîm

Clare – Arweinydd Strategol ar gyfer Lles a Phrofiad y Gweithwyr

“Hi, Clare ydw i. Fel Arweinydd Strategol ar gyfer Lles a Phrofiad y Gweithwyr, fy ngwaith i yw hybu iechyd emosiynol cadarnhaol ymhlith staff, sicrhau bod cymorth ar gael i’r staff pan fydd ei angen a gwneud CTM yn lle gwych i weithio. Rwy'n seicolegydd clinigol ymgynghorol ac yn seicotherapydd systemig, ac rwy’n defnyddio bron 30 mlynedd o brofiad o weithio mewn lleoliadau gofal iechyd yn y GIG ac yn y sector preifat i lywio popeth rwy'n ei wneud. Mae profiadau gwaith cadarnhaol yn dda i'n lles emosiynol, a dydy profiadau gwael ddim. Rwy'n angerddol am fynd i'r afael â'r materion sy'n herio ein lles emosiynol i wneud yn siŵr bod y gweithle’n gallu bod yn fan lle rydyn ni’n teimlo ein bod ni’n perthyn, yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol ac yn cael ein gwerthfawrogi a'n parchu.”

Emma – Seicolegydd Clinigol Tra Arbenigol

“Helo, Em ydw i, ac rwy’n Seicolegydd Clinigol Tra Arbenigol yn y Tîm Lles. Mae fy rôl yn cynnwys helpu’r staff i ddeall a gofalu am eu lles er mwyn atal trallod emosiynol neu gorfforol, cynnig cymorth pan fydd rhywbeth trawmatig wedi digwydd yn y gwaith, a sicrhau bod y staff yn gwybod sut i gael cymorth os byddan nhw’n cael trafferth. Rwy'n cynnig ymgynghoriadau gyda rheolwyr, arweinwyr tîm a swyddogion gweithredol i ystyried sut rydyn ni’n sicrhau mai CTM yw’r lle gorau i weithio ynddo. Rwy'n feddyg seicoleg glinigol ac rydw i wedi bod yn angerddol am hyrwyddo a diogelu lles y staff ers i mi ddechrau gweithio ym maes gofal iechyd yn 2009. I ofalu am fy lles fy hun, rwy'n hoffi mynd ar anturiaethau yn yr awyr agored, dawnsio fel does neb yn gwylio a mwynhau bwyd da gyda ffrindiau.”

Nikki – Ymarferydd Datblygu Lles

“Helo, Nikki ydw i ac rwy'n gweithio gyda'r Tîm Lles fel Ymarferydd Datblygu Lles. Rhan o fy rôl yw tyfu ac ymgysylltu â rhwydwaith o ymgyrchwyr lles, sef gweithwyr sy'n hybu gweithgarwch lles yn eu gweithle. Mae hon yn gymuned sy'n tyfu. Rydw i hefyd yn hwyluso cyrsiau a sesiynau ymwybyddiaeth ofalgar seiliedig ar dosturi, ac rwy’n defnyddio’r offer a'r technegau hyn fy hun bob dydd i fyw bywyd gofalgar. Mae natur, cerdded a bod ar y traeth yn helpu i hybu fy lles.”

Kim – Cwnselydd Lles

“Helo, Kim ydw i, ac rwy’n cwnselydd lles. Rwy’n therapydd sydd wedi cael hyfforddiant systemig, sy'n golygu pan fydda i’n cwrdd ag unigolyn, rwy’n ymwybodol fy mod i’n cwrdd â nifer o unigolion, gan fy mod i o’r farn fod popeth a phawb o'n cwmpas yn llywio pwy ydyn ni. Mae diddordeb gyda fi yn y ffordd rydyn ni’n ymwneud â'n gilydd a’r ffordd rydyn ni’n creu ystyr yn y cyd-destunau amrywiol rydyn ni’n byw ynddyn nhw. Rwy'n defnyddio'r dull hwn wrth fy ngwaith clinigol yn CTM, lle rwy'n cynnig amrywiaeth o ymyriadau therapiwtig i unigolion a/neu i grwpiau. Mae lles yn hanfodol er mwyn cynnal iechyd meddwl da; er mwyn cadw fy hun yn gadarn ac yn iach, rwy'n cymryd rhan mewn ymgyrchoedd lleol, yn cysylltu â'r byd o fy nghwmpas, yn cerdded 10,000 o gamau bob dydd, yn cofleidio fy mhlant, yn chwarae’r piano neu'n mynd i'r dafarn gyda fy ffrindiau.”

Bethan – Ymarferydd Lles Seicolegol

“Helo ‘na! Bethan ydw i, a fi yw un o'r Ymarferwyr Lles Seicolegol yn y Gwasanaeth Lles. Rwy'n cyd-ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, hyfforddiant ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i reolwyr, ac amrywiaeth o gyrsiau seicoaddysg, gan gynnwys rheoli gorbryder a straen, gorflinder a thrawma. Y tu hwnt i’r gwaith, bydda i fel arfer yn y gampfa neu’n chwarae fy sacsoffon.”

Laura – Ymarferydd Lles Seicolegol

“Helo, Laura ydw i, a dwi’n ymarferydd lles seicolegol yn y Gwasanaeth Lles. Rydw i wedi gweithio ers blynyddoedd lawer mewn gwasanaethau iechyd meddwl, o ofal sylfaenol i dderbyniadau acíwt. Fodd bynnag, un peth sydd wedi parhau'n gyson drwyddi draw yw fy angerdd i roi cymorth i fy nghydweithwyr, felly dyma fi yn y Gwasanaeth Lles! Yn ogystal â chefnogi mentrau lles arbennig, fy mhrif rôl yw trefnu a chyd-ddarparu hyfforddiant cymorth cyntaf iechyd meddwl, ymwybyddiaeth o iechyd meddwl i reolwyr ac ymateb i anghenion y staff drwy greu a chyflwyno cyrsiau seicoaddysg ar draws y Bwrdd Iechyd. I hybu fy lles fy hun, rwy'n dechrau'r diwrnod trwy gerdded 5km gyda fy llamgi (springer spaniel) sy’n un flwydd oed, beth bynnag fo’r tywydd!”

Dilynwch ni: