Neidio i'r prif gynnwy

Ymyrraeth neu hyfforddiant arbennig gan y Tîm Lles

Ydy eich tîm wedi wynebu digwyddiad sydd wedi cael effaith negyddol ar eu lles? Gallai hyn fod yn brofedigaeth, marwolaeth drawmatig ar ward neu unrhyw ddigwyddiad arall sydd wedi peri gofid i'r tîm. Mae'n arferol i bobl ymateb yn eithriadol i ddigwyddiadau anghyffredin, ac mae’n bosib y bydd angen cymorth ychwanegol ar y staff gyda'u lles yn dilyn digwyddiad trawmatig.

Mae’r Tîm Lles yn gallu darparu sesiynau grŵp untro neu sesiynau un wrth un er mwyn helpu’r staff a galluogi’r staff i ddod at ei gilydd a rhoi cymorth i’w gilydd ar adegau anodd. Mae'r sesiynau'n rhoi cyfle i’r staff brosesu beth sydd wedi digwydd a sut mae'r digwyddiad wedi effeithio arnyn nhw, yn ogystal â rhannu gwybodaeth ynglŷn â’r cymorth sydd ar gael iddyn nhw ac ystyried a oes angen rhagor o gymorth arnyn nhw.

Bydd angen i rywun yn y tîm drefnu'r digwyddiad, cadw rhestr o ba aelodau'r tîm sydd am gymryd rhan, trefnu ystafell a chysylltu â'r aelod o'r Tîm Lles fydd yn cynnal y sesiwn. Os oes diddordeb gyda’ch tîm mewn trefnu sesiwn, e-bostiwch CTM.WellbeingService@wales.nhs.uk.

Dilynwch ni: