Neidio i'r prif gynnwy

Cymorth ar gyfer Profedigaeth

Mae'r dudalen hon yn cael ei hailddatblygu ar hyn o bryd.

Yn dilyn marwolaeth rhywun agos atoch chi, yma ym Mwrdd Iechyd Prifysgol Cwm Taf Morgannwg rydym yn deall pa mor gymhleth y gall galar fod. Ein nod yw eich cefnogi drwy eich taith a gobeithiwn y bydd y wefan hon yn eich tywys drwy'r dyddiau, wythnosau a misoedd anodd sydd i ddod.

Y cam cyntaf

Yn y lle cyntaf, bydd angen i chi gysylltu â’r swyddog profedigaeth yn yr ysbyty perthnasol:

  • Ysbyty Brenhinol Morgannwg - Ffôn: 01443 443249
  • Ysbyty'r Tywysog Siarl - Ffôn: 01685 728625
  • Ysbyty Tywysoges Cymru - Ffôn: 01656 754088
  • Ysbyty Cwm Rhondda - Ffôn: 01443 430022 est 72644
  • Ysbyty Cwm Cynon - Ffôn: 01443 715217

Mae'r Swyddogion Profedigaeth ar gael rhwng 9:00yb a 4.00yp o ddydd Llun i ddydd Gwener, ond nid ydynt ar gael ar benwythnosau nac ar Ŵyl y Banc. O fewn Ysbytai Cymunedol yr oriau agor yw 9.00yb - 12.30yp. Unrhyw alwadau y tu allan i'r amseroedd hyn, gallwch adael neges llais.

Bydd y swyddogion yn egluro beth sy'n digwydd nesaf o ran y Dystysgrif Feddygol o Achos Marwolaeth, a elwir weithiau'n Dystysgrif Marwolaeth neu'n Dystysgrif Feddygol.

Bydd y tîm yn gofyn rhai cwestiynau adnabod i chi er mwyn canfod pwy yw’r claf, yn ogystal â’ch enw, manylion cyswllt a pherthynas â’r ymadawedig.

Byddant yn sefydlu ai chi yw'r person a fydd yn gyfrifol am Gofrestru Marwolaeth ac yn gofyn am enw'r trefnydd angladdau yr ydych am ei ddefnyddio, os ydych wedi penderfynu.

Gofynnir i chi hefyd a fyddwch yn cynllunio ar gyfer claddedigaeth neu amlosgiad. Gwneir hyn fel bod y tîm yn gallu sicrhau bod y gwaith papur cywir yn cael ei gwblhau ar eich cyfer, cyn gynted â phosibl.

Byddwch yn gallu gofyn unrhyw gwestiynau sydd gennych i'r tîm a byddant yn gallu eich cefnogi gydag unrhyw brosesau parhaus.

Os ydych chi'n teimlo eich bod chi'n cael trafferth, gallant hefyd helpu i ddod o hyd i'r gefnogaeth gywir i chi yn ystod eich profedigaeth, felly gofynnwch a ydych chi'n meddwl y byddai hyn o gymorth i chi.

Y Caplan
Gwasanaeth Archwilwyr Meddygol
Os yw'ch perthynas/ffrind wedi marw gartref neu yn y gymuned
Swyddfa'r Crwner
Cofrestru marwolaeth
Y gwasanaeth Dywedwch Wrthym Unwaith
Ariannu angladd
Gweld rhywun yr oeddech yn gofalu amdano
Ymdopi â galar a cholled
Cefnogi plant trwy alar
Adborth
Cyfeirio at gymorth
Dilynwch ni: