Neidio i'r prif gynnwy

Lleddfu poen wrth esgor

Mae amrywiaeth lu o foddau o leddfu poen ar gael i chi, ac mae'n ddefnyddiol gwybod beth yw eich opsiynau cyn i chi roi genedigaeth. 

Gallech chi fod yng nghyfnod cynnar y geni (y cyfnod cychwynnol) am sbel, felly mae'n bwysig gwybod beth fydd yn eich helpu yn ystod y cyfnod hwn:

  • baddonau cynnes
  • tylino’r cefn
  • peiriant ysgogi’r nerfau’n electronig trwy’r croen (TENS)
  • parasetamol
  • cadw i symud, rhoi cynnig ar wahanol safleoedd
  • bwyta ac yfed (mae’n bosib na fyddwch chi'n teimlo fel bwyta pryd mawr, ond cymerwch sipiau o ddŵr yn rheolaidd a bwyta ychydig ac yn aml i wneud yn siŵr bod digon o egni gyda chi)
  • ymlacio/cysgu (yn enwedig pan fyddech chi fel arfer yn cysgu)

Bydd pob person sy'n rhoi genedigaeth yn ymdopi â’r geni’n wahanol. Bydd rhai’n mynegi eu teimladau’n rhydd ac yn uchel, bydd angen llawer o boenladdwyr ar rai pobl, ac efallai na fydd angen unrhyw boenladdwyr ar bobl eraill. Does dim rheolau ynglŷn â sut rydych chi'n rhoi genedigaeth, a bydd eich bydwraig yn eich helpu chi i wneud penderfyniad gwybodus o ran pa boenladdwyr sydd eu hangen arnoch chi. 

Dilynwch ni: