Neidio i'r prif gynnwy

Pethidin

Cyffur cysgu yw pethidin sy'n cael ei chwistrellu i mewn i'ch clun neu eich pen-ôl er mwyn lleddfu poen. Mae pethidin yn gallu gwneud i chi deimlo'n gysglyd, a gall rhai menywod deimlo'n gyfoglyd. Bydd y fydwraig fel arfer yn cynnig moddion ar yr un pryd i’ch atal chi rhag chwydu. Mae pethidin yn croesi trwy'r brych, ac yn gyffredinol bydd eich bydwraig yn osgoi rhoi hyn i chi tuag at gamau olaf yr enedigaeth oherwydd y posibilrwydd y bydd eich babi’n cael ei eni o dan dawelydd.

Gall hyn gymryd tua 20 munud i weithio, a fydd hyn ddim yn cael gwared ar y boen yn llwyr. Bydd yr effeithiau'n para rhwng 2-4 awr. Os ydych chi am ddefnyddio'r pwll geni, rydyn ni’n argymell eich bod chi'n aros o leiaf 2-4 awr ar ôl i chi gael pethidin.

Dilynwch ni: