Nwy sy'n cael ei anadlu yw Entonox, ac mae’n treulio allan o'ch system yn gyflym iawn. Fydd hyn ddim yn cael gwared ar y boen yn llwyr, ond bydd yn eich helpu i ymdopi â’r boen yn well. Mae Entonox yn hawdd ei ddefnyddio, a bydd y person sy’n rhoi genedigaeth yn defnyddio hyn ei hun drwy ddal teclyn ac anadlu'r Entonox i mewn drwy’r geg.
Bydd eich bydwraig yn rhoi cyngor i chi ynglŷn â sut i ddefnyddio Entonox yn effeithiol.