Neidio i'r prif gynnwy

Nyrsio Diabetes Arbenigol

Newidiadau Gwasanaeth ar gyfer COVID-19
Yn anffodus, oherwydd COVID-19, ni allwn gynnal Clinig Diabetes Cynon.  
Roeddem ni wedi cysylltu â'r holl gleifion yn unigol i ganslo eu hapwyntiadau clinigol ar gyfer Ebrill a Mai. Rydym hefyd wedi darparu rhif cyswllt i'r holl gleifion a oedd â phryderon ac a oedd am siarad â chlinigydd.
Bydd pob claf sydd â phryderon (ynghyd â phob claf newydd) yn derbyn ymgynghoriad dros y ffôn gan un o'r Nyrsys Diabetes Arbenigol Cymunedol. Bydd ymweliadau cartref yn cael eu trefnu hefyd os bydd angen dybryd.
Am unrhyw ymholiadau gan gleifion yn ardal Ysbyty Tywysoges Cymru, ffoniwch 01656 752900.
Does dim newidiadau i'r Gwasanaeth Nyrsio Dosbarth ar hyn o bryd.

Mae'r Gwasanaeth Nyrsio Diabetes Arbenigol yn darparu cefnogaeth arbenigol i staff meddygfeydd ym mhob agwedd ar reoli diabetes gan gynnwys diagnosis, triniaeth a rheoli cleifion.

Mae hyn hefyd yn cynnwys goruchwylio nyrsys “newydd i ymarfer”, ynghyd â nyrsys practis mwy profiadol, i sicrhau bod cymwyseddau'n cael eu cyflawni.

Mae'r tîm hefyd yn gyfrifol am addysg a hyfforddiant o ran rheoli diabetes ar gyfer yr holl staff sy'n gweithio mewn lleoliadau gofal sylfaenol a chymunedol. Lle bo hynny'n briodol, mae hyn hefyd yn cynnwys darparu diweddariadau ac addysg fwy arbenigol.

Yn ogystal, mae'r gwasanaeth yn cynnal ymweliadau asesu ar y cyd i gleifion ochr yn ochr â nyrsys ardal.

Ar gyfer pwy mae'r gwasanaeth?

Rydym yn darparu addysg a hyfforddiant i nifer o weithwyr proffesiynol ym maes gofal sylfaenol a chymunedol gan gynnwys meddygon teulu, nyrsys practis, nyrsys ardal, staff cartrefi gofal, staff gwasanaethau iechyd meddwl a gwasanaethau anawsterau dysgu, staff asiantaethau gofal, pobl sy'n gaeth i'w cartrefi â diabetes a hefyd staff y wardiau yn Ysbyty Cwm Cynon ac Ysbyty Cwm Rhondda.

All unrhyw un ddefnyddio'r gwasanaeth?

Mae'r gwasanaeth hwn ar gyfer gweithwyr proffesiynol gofal sylfaenol a chymunedol sydd angen cefnogaeth gyda chyngor a / neu hyfforddiant diabetes.

Oriau Agor
Dydd Llun i Ddydd Gwener, 9:00 am i 5:00 pm

Beth i'w ddisgwyl

Mae'r gwasanaeth yn gwneud nifer o bethau:

  • Darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol i staff mewn meddygfeydd mewn perthynas â rheoli diabetes.
  • Darparu hyfforddiant ac addysg wedi'u teilwra ar gyfer anghenion unigol staff mewn meddygfeydd.
  • Hwyluso cyflawni cymwyseddau clinigol (diabetes) ar gyfer staff nyrsio newydd mewn meddygfeydd.
  • Darparu cyngor arbenigol ar reoli'r cleifion hynny sydd naill ai'n gaeth i'w cartref neu'n byw mewn cartref gofal.
  • Darparu cefnogaeth a chyngor arbenigol i nyrsys ardal, nyrsys iechyd meddwl a nyrsys anabledd dysgu.
  • Hwyluso a chyflwyno'r “Tystysgrif Diploma mewn Rheoli Diabetes ym maes Gofal Sylfaenol,” a darparu hyfforddiant ac addysg i fyfyrwyr cyn ac ar ôl cofrestru sy'n astudio ym Mhrifysgol De Cymru.

Cysylltwch â Ni
E-bost: ctt_commnitydiabetesnurse@wales.nhs.uk
Ceri Jones - 07799 157349
Nicola Hewer - 07747 024685
Victoria Page - 07733 307809

Dilynwch ni: