Neidio i'r prif gynnwy

Sut mae cael brechlyn ffliw ac atgyfnerthiad hydref COVID-19?

 

 

Preswylwyr mewn cartref gofal i oedolion hŷn

Ffliw

Byddwch chi’n cael cynnig y brechlyn rhag y ffliw gan naill ai eich meddyg teulu neu Nyrs Ardal yn y cartref gofal rydych yn byw.

COVID-19

Rydym yn ymweld â'r cartref gofal lle rydych chi'n byw i gynnig y ddos atgyfnerthu.


 

Pob oedolyn 65 oed neu hŷn

Ffliw

 Gallwch gael eich brechlyn ffliw drwy eich meddyg teulu neu fferyllfa yn y gymuned.

COVID-19

Byddwch chi’n cael eich gwahodd i un o'n canolfannau brechu cymunedol neu i'ch meddygfa. Rydym yn gwahodd pobl yn nhrefn blaenoriaeth glinigol, felly does dim angen cysylltu â ni ar hyn o bryd; byddwn yn cysylltu â chi.

 


 

Pobl rhwng 6 mis a 64 oed sy'n cael eu hystyried yn agored i niwed yn glinigol

Ffliw

Ar gyfer oedolion yn y categori hwn, gallwch gael eich brechlyn rhag y ffliw drwy eich meddyg teulu neu fferyllfa yn y gymuned.

Ar gyfer babanod/plant o 6 mis oed, bydd eu brechlyn rhag y ffliw yn cael ei gynnig drwy eu meddyg teulu. Ar gyfer plant oedran ysgol hyd at 18 oed, bydd eu brechlyn yn cael ei gynnig drwy'r ysgol/coleg, neu os nad ydyn nhw mewn addysg, gan eu meddyg teulu.

COVID-19

O 5 oed ymlaen, bydd pob unigolyn sy'n cael eu hystyried yn agored i niwed yn glinigol yn cael eu gwahodd yn nhrefn blaenoriaeth glinigol i un o'n canolfannau brechu cymunedol. Does dim angen cysylltu â ni ar hyn o bryd; byddwn yn cysylltu â chi.

Ar gyfer babanod/plant o 6 mis i 5 oed sy'n cael eu hystyried yn agored i niwed yn glinigol, bydd rhieni/gwarcheidwaid yn derbyn gwahoddiad gyda manylion clinig. 

 


 

Staff iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen

 

Staff gofal iechyd

Byddwch chi’n cael eich gwahodd i un o ganolfannau brechu cymunedol neu'r ysbyty lle rydych chi wedi'ch lleoli ar gyfer eich brechlyn rhag y ffliw a'ch dos atgyfnerthu COVID. Byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi trwy ein sianeli staff.

Staff Gofal Cymdeithasol Rheng Flaen (gan gynnwys staff Cartrefi Gofal):

Ffliw

Gallwch gael eich brechlyn rhag y ffliw drwy fferyllfa yn y gymuned.

COVID-19

Bydd staff cartrefi gofal yn cael eu gwahodd i fynychu eu man gwaith/un o'n canolfannau brechu cymunedol. Ar gyfer staff Gofal Cymdeithasol eraill, byddwch chi’n cael eich gwahodd i un o'n canolfannau brechu cymunedol.

 


 

Pobl (12-64 oed) sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan

Ffliw

Ar gyfer oedolion yn y categori hwn, byddwch yn gallu cael eich brechlyn rhag y ffliw naill ai gan eich meddyg teulu neu fferyllfa yn y gymuned.

Ar gyfer plant oedran ysgol hyd at 18 oed, bydd eu brechlyn yn cael ei gynnig drwy'r ysgol/coleg, neu os nad ydyn nhw mewn addysg, gan eu meddyg teulu.

COVID-19

O 12 oed ymlaen, bydd pob unigolyn sy'n byw gyda rhywun sydd â system imiwnedd wan yn cael eu gwahodd i un o'n canolfannau brechu cymunedol yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Does dim angen cysylltu â ni ar hyn o bryd; byddwn yn cysylltu â chi.

 


 

Pobl rhwng 16 a 64 oed sy'n ofalwyr

Ffliw

Gallwch gael eich brechlyn rhag y ffliw drwy eich meddyg teulu neu fferyllfa yn y gymuned

COVID-19

Byddwch chi’n cael eich gwahodd i un o'n canolfannau brechu cymunedol, yn nhrefn blaenoriaeth glinigol. Does dim angen cysylltu â ni ar hyn o bryd; byddwn yn cysylltu â chi.


Mwy o wybodaeth

Darllen mwy o wybodaeth am y brechlyn Ffliw neu brechlyn COVID-19.