Neidio i'r prif gynnwy

Y Ffliw

Mae’r ffliw yn cylchredeg bob blwyddyn, fel arfer yn y gaeaf, ac mae’n afiechyd heintus iawn gyda symptomau sy’n ymddangos yn gyflym iawn. Mae annwyd yn llawer llai difrifol, ac fel arfer mae’n dechrau gyda thrwyn llawn neu drwyn sy’n rhedeg a gwddw tost. Mae achos gwael o’r ffliw yn gallu bod yn llawer gwaeth nag annwyd gwael, ac mae’n gallu gwneud i bobl iach deimlo’n dost hyd yn oed.

Twymyn, iasau oer, pen tost, poenau ysgafn yn y cyhyrau a’r cymalau a blinder llethol yw symptomau mwyaf cyffredin y ffliw. Gan fwyaf, mae’r symptomau yn weddol ysgafn, ond maen nhw’n gallu bod yn ddifrifol.

Mae ffliw yn cael ei achosi gan firws sy’n gallu lledaenu’n gyflym: gall unrhyw un ddal y firws a’i roi i rywun sydd mewn mwy o berygl o fynd yn dost iawn. Oherwydd bod ffliw yn cael ei achosi gan firws yn hytrach na bacteria, fydd moddion gwrthfiotig ddim yn ei drin.

Beth sydd ei angen gennych chi: Mae brechu’n ddiogel, a dyna’r ffordd orau o wneud yn siŵr eich bod chi ddim yn dal nac yn lledaenu’r ffliw. Bydd cael brechiad nawr yn eich diogelu chi dros fisoedd y gaeaf.

Am fwy o wybodaeth ynglŷn â’r ffliw, ewch i icc.gig.cymru/pynciau/imiwneiddio-a-brechlynnau/brechlynffliw/

Dilynwch ni: